Mae’r para-rwyfwr Ben Pritchard o Abertawe wedi ennill medal efydd yng Nghwpan y Byd yng Ngwlad Pwyl.
Mae’r gystadleuaeth yn un o’r cystadlaethau sy’n cymhwyso cystadleuwyr ar gyfer pencampwriaeth y byd.
Gorffennodd y Cymro’n drydydd y tu ôl i Roman Polianskyi o’r Wcráin a’r Awstraliad Erik Horrie yng nghategori PR1 M1x.
Roedd e’n arfer cystadlu mewn triathlon cyn i ddamwain ar ei feic ei barlysu yn rhan isa’i gorff.