Mae cronfa wedi ei sefydlu ar gyfer codi cerflun er cof am y gyrrwr ceir rasio Fformiwla 1 enwog, Tom Pryce, yn nhref Dinbych.
Mae’r gronfa wedi ei lansio’n swyddogol heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 11), sef y diwrnod y byddai’r Cymro wedi dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.
Daw hefyd ychydig wythnosau yn dilyn marwolaeth ei gyd-yrrwr, Niki Lauda, a enillodd y ras lle cafodd Tom Pryce ei ladd mewn damwain drasig yn 1977.
Y nod yw codi hyd at £50,000 ar gyfer codi’r gofeb yn nhref Dinbych, ac mae’r cerflunydd Nick Elphick o Landudno eisoes wedi ymuno â’r prosiect.
“Cofeb barhaol”
Mae murlun o Tom Pryce eisoes yn bodoli yn nhref Rhuthun, ac mae darn o drac yng Nghylchdro Ynys Môn wedi ei enwi yn ‘Tom Pryce Straight’ er cof amdano.
Ond yn ôl trefnwyr y gronfa apêl ar gyfer cofeb Dinbych, maen nhw am godi “cofeb barhaol” a fydd yn “ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddilyn eu breuddwydion”.
“Rwy’n credu bod yr apêl i greu darn arbennig o gelf gyhoeddus i gofio Tom yn rhywbeth hollol wych,” meddai Maer Dinbych, y Cynghorydd Gaynor Wood-Tickle, sy’n un o gefnogwyr yr apêl.
“Waeth beth mae pobol ifanc eisiau ei wneud, mae angen pethau i’w hysbrydoli ac mae’n ardderchog gweld rhywbeth fel hyn yn cael ei wneud yn nhref Dinbych.”
Tom Maldwyn Pryce
Cafodd Tom Pryce, a oedd yn cael ei alw’n ‘Maldwyn’ gan ei gyfeillion, ei fagu ym mhentref Nantglyn ger Dinbych, a bu’n ddisgybl yn Ysgol Frongoch yn y dref.
Ar ôl gadael yr ysgol, bu’n brentis peiriannydd gyda Pheirianwyr Amaethyddol Gogledd Cymru yn Llanelwy.
Aeth yn ei flaen wedyn i fod yn yrrwr ceir rasio a symudodd yn gyflym drwy’r rhengoedd, gan ennill Ras Pencampwyr Fformiwla Un yn Brands Hatch yn 1975.
Fe gystadlodd yn Grand Prix Prydain yn Silverstone y flwyddyn honno hefyd, a chyrhaeddodd frig y grid gan arwain y ras am ddau lap.
Bu farw mewn damwain drasig yn ystod Grand Prix De Affrica yn 1977.