Fe fydd tîm criced Morgannwg yn dychwelyd yr wythnos hon i’w cartref ysbrydol, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Derby i San Helen yn Abertawe ar gyfer gêm Bencampwriaeth sy’n dechrau fory (dydd Mawrth, Mehefin 11).
Ar y cae hanesyddol ar lannau Bae Abertawe y digwyddodd rhai o’r eiliadau mwyaf arwyddocaol yn hanes criced a rygbi yng Nghymru – o fuddugoliaethau’r tîm criced dros Awstralia yn 1964 ac o dan gapteniaeth Don Shepherd o Borteinon yn 1968, i ‘chwech chwech’ Garry Sobers i Swydd Nottingham yn 1968, i fuddugoliaeth tîm rygbi’r dref o 21-3 dros Awstralia yn 1992.
Does ond angen gofyn i John Williams, cadeirydd hirdymor a diflino clwb cefnogwyr Orielwyr San Helen, ac fe fyddai’n dweud, ar ddiwrnod crasboeth o haf, y gallech chi “ddychmygu eich bod chi yn Barbados”.
Mwynhad o un genhedlaeth i’r llall
Mae cartref ‘Clwb Criced a Phêl-droed Abertawe’ ar lan y môr wedi gweld cenedlaethau o blant yn cynnal eu “gemau prawf” eu hunain ychydig droedfeddi i ffwrdd o’u harwyr ar ymyl y cae, wrth iddyn nhw dynnu eu siwmperi a mynd am y bin agosaf i godi wicedi.
Mae’r darlun hwnnw’n dra gwahanol i’r caeau concrid sy’n croesawu’r genhedlaeth gyfoes o gefnogwyr criced erbyn hyn.
Daeth llawenydd i’r sawl sy’n ddigon ffodus o fod wedi gweld ‘ergyd chwech’ gan Viv Richards i’r traeth neu y cais enwog hwnnw gan Scott Gibbs yn erbyn Awstralia, pan gafodd y cae ei anfarwoli â dau blac glas – y cyntaf yn 2015 yn nodi hanes Clwb Rygbi Abertawe, a’r ail y flwyddyn ganlynol i Glwb Criced Morgannwg.
Gemau diweddar
A dydy’r gemau criced diweddaraf yn hanes San Helen yn sicr ddim wedi siomi chwaith.
Er i Forgannwg golli o 251 o rediadau yn erbyn Swydd Northampton yn 2016, daeth dau o sêr ifanc y sir i amlygrwydd yn ystod y gêm honno.
Fe wnaeth yr Awstraliad Nick Selman, cyn-chwaraewr pêl-droed Awstralaidd, gario’i fat wrth sgorio 122, ei ganred cyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf, ac fe gipiodd y bowliwr lleol Lukas Carey saith wiced am 151 yn yr ornest.
Nick Selman, sy’n enedigol o Brisbane, oedd y seren unwaith eto yn 2017 wrth gario’i fat a sgorio 116 oddi ar 129 o belenni, wrth i Forgannwg ennill yn annisgwyl o dair wiced yn y belwd olaf un yn erbyn Swydd Durham.
Yn gynharach yn yr ornest, cipiodd Michael Hogan bum wiced i osod y seiliau ar gyfer y fuddugoliaeth a diweddglo cyffrous.
Y tymor diwethaf, tarodd Usman Khawaja 126, yr ail o blith ei dri chanred yn olynol yn ei dair gêm cyntaf i’r sir, wrth i Kiran Carlson, Cymro ifanc o Gaerdydd, sgorio 152.
Ond roedden nhw’n ofer wrth i Swydd Derby frwydro i sicrhau gêm gyfartal yn y pen draw.
Perfformiadau 2019
Mae Morgannwg yn ddi-guro mewn gemau pedwar diwrnod yn 2019, ac maen nhw’n dod i mewn i’r gêm hon ar ôl buddugoliaeth yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Swydd Northampton yn Northampton.
Roedd eironi yr wythnos ddiwethaf wrth i Billy Root daro 229 i Forgannwg.
Ar ddiwedd ei fatiad, aeth e heibio sgôr Roy Fredericks, 228, ar gae San Helen yn 1972 a arweiniodd at sefydlu Orielwyr San Helen – a phartner Roy Fredericks y pen arall i’r llain ar y diwrnod hwnnw oedd Alan Jones, sydd bellach yn Llywydd ar yr ‘Orielwyr’.