Mae protestwyr amgylcheddol wedi targedu seiclwyr Tîm Ineos yn ystod ras Tour de Yorkshire yn Efrog.
Y rheswm yw mai cwmni ynni enfawr yw Ineos, sy’n noddi’r tîm seiclo. Tîm Ineos yw’r enw newydd ar dîm Sky. Mae gan y cwmni ddiddordeb mewn ffracio ac mae’n gynhyrchwr plastig.
Aeth y protestwyr at fws y tîm ar ddechrau’r ras yn Doncaster heddiw (dydd Iau, Mai 2).
Daw’r brotest ar ôl i Gyfeillion y Ddaear gyhoeddi llythyr agored at bennaeth y tîm, David Brailsford, gan gyhuddo cwmni Ineos o ddefnyddio chwaraeon er mwyn “glanhau” ei enw.
Mae cwestiynau ynglŷn â ffracio a phlastig wedi meddiannu cynadleddau’r wasg i Team Ineos wythnos yma mewn tafarn yng ngogledd Efrog.