Mae Wrecsam yn croesawu Eastleigh i Gae Ras heno (nos Iau, Mai 2) yn wyth olaf gemau ail-gyfle y Gynghrair Genedlaethol.

Fe fydd raid i’r Dreigiau ennill er mwyn cadw’r freuddwyd o gael dyrchafiad i Ail Gynghrair Lloegr yn fyw.

Ond fe fydd Eastleigh hefyd yr un mor awyddus i gyrraedd y rownd gynderfynol ar ddydd Sul (Mai 5) yn Moor Lane, ble bydd Salford City yn disgwyl.

Bydd taith i Wembley ar ddydd Sadwrn, Mai 11, i’r ffeinal hefyd yn siŵr o fod ar feddwl y Dreigiau a’r gyda’r posibilrwydd o gyrraedd Cynghrair Lloegr yn un cyffrous.

Ond cyn meddwl am Salford a Wembley mae’n rhaid iddyn nhw berfformio ar Gae Ras heno a sicrhau buddugoliaeth.

Y ffeithiau

– Mae Wrecsam wedi bod ar y tu fas i’r Gynghrair Bêl-droed ers 11 mlynedd

– Y tymor hwn, mae Wrecsam wedi bod ar frig y Gynghrair Genedlaethol deirgwaith

– 4ydd oedd safle terfynol y Dreigiau y tymor hwn

– Wrecsam sydd â’r record orau o ran gemau cartref yn y gynghrair. Dim ond tair gêm y maen nhw wedi’u colli, maen nhw wedi cael tair gêm gyfartal, allan o 23 sydd wedi bod ar Gae Ras yn 2018/19

– Mae’r Dreigiau wedi ennill pedair allan o’u pum gêm ddiwethaf

– 10 gêm sydd wedi bod rhwng Wrecsam ac Easleigh yn y gynghrair. Dim ond unwaith mae Eastleigh wedi ennill.

– Fe chwalwyd gobeithion Wrecsam o ennill dyrchafiad gan Grimsby yn y gemau ail-gyfle y tymor diwethaf