Mae Dewi Griffiths wedi gorffen Marathon Llundain bedair munud yn brin o’r record Gymreig ar gyfer y ras.
Croesodd y rhedwr o Gaerfyrddin y llinell derfyn mewn 2:11:46.
Roedd e’n anelu am 2:07:11 a gafodd ei osod gan Steve Jones yn 1985.
Serch hynny, roedd ei amser yn ddigon da i gyrraedd y safon ar gyfer Pencampwriaeth y Byd yn Doha yn ddiweddarach eleni.
Fe wnaeth Josh Griffiths orffen yn 21ain, mewn 2:14:25, ac Andy Davies mewn 2:15:37.
Ymhlith y merched, gorffennodd Natasha Cockram mewn 2:40:31.
Ras y dynion
Eliud Kipchoge o Cenia ddaeth i’r brig am y pedwerydd tro, sy’n record ar gyfer y marathon.
Enillodd e’r ras yn 2015, 2016 a’r llynedd.
Fe dorrodd deilydd record y byd ei record ei hun, gan orffen mewn 2:02:37, yr ail amser cyflymaf erioed.
Roedd e ar y blaen i Mosinet Geremew a Mule Wasihun.
Roedd Mo Farah yn bumed.
Ras y merched
Brigid Kosgei o Cenia ddaeth i’r brig yn ras y merched, ar ôl gorffen yn ail y llynedd.
Vivian Cheruiyot o Ethiopia oedd yn ail, a’i chydwladwraig Roza Dereje yn drydydd.
Y cadeiriau olwyn
Yr Americanwr Dan Romanchuk ddaeth i’r brig yn ras cadeiriau olwyn y dynion, tra bod Marcel Hug o’r Swistir yn ail a Tomoki Suzuki o Japan yn drydydd.
Manuela Schar o’r Swistir ddaeth i’r brig yn ras cadeiriau olwyn y merched.