Joe Farrell yw’r unig geffyl o Gymru yn ras fawr y Grand National yn Aintree heddiw.
Mae’r ceffyl deg oed cael ei hyfforddi gan Rebecca Curtis o Drefdraeth yn Sir Benfro, ac fe gipiodd y lle olaf ymhlith y 40 o geffylau ar gyfer y ras.
Cafodd ei le yn y ras ar ôl i Willie Mullins ddewis peidio â chofrestru Pairofbrowneyes.
Bydd yn cael ei farchogaeth gan Adam Wedge.
Fe enillodd e brif ras yr Alban y llynedd.
Pe bai’n ennill – er mor annhebygol yw hynny – Joe Farrell fyddai’r ceffyl cyntaf o Gymru i ennill y Grand National yn Aintree ers 1905.
Mae arbenigwyr yn darogan y gallai’r bwcis orfod talu dros £10m pe bai e’n ennill.
Y joci o Gymru, Sean Bowen fydd yn marchogaeth Moonbeg Notorious, a’r gobaith yw y gall e orffen ymhlith y chwe cheffyl gorau.