Mae’r chwaraewr dartiau Gerwyn Price wedi cael dirwy a gwaharddiad gohiriedig yn dilyn cystadleuaeth y Grand Slam fis Tachwedd y llynedd.
Daeth yr Awdurdod Rheoleiddio Dartiau i’r casgliad bod y Cymro wedi dwyn anfri ar y gêm yn ystod dwy ornest yn erbyn Gary Anderson a Simon Whitlock.
Mae’n cyfaddef iddo dorri’r rheolau hefyd mewn cyfres o negeseuon ar wefannau cymdeithasol yn dilyn yr helynt.
Yn ôl yr awdurdod, roedd ei ddathliadau yn ystod y gystadleuaeth “y tu hwnt i’r hyn sy’n dderbyniol” a’i fod yn “rhy ymosodol” tuag at ei wrthwynebwyr yn ystod y gemau “mewn ymgais i dynnu sylw ei wrthwynebwyr er mwyn cael mantais”.
Fe gafodd ei gyhuddo o ymddwyn yn ymosodol yn 2017, ac fe gafodd hynny ei ystyried wrth ei gosbi.
Mae e wedi cael dirwy o £21,500 a gwaharddiad o dri mis, wedi’i ohirio am chwe mis.
Mae Gary Anderson wedi cael rhybudd am ei ymddygiad yntau.