Fe fydd tîm rygbi Cymru’n teithio i Ffrainc ar gyfer gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad heb y cefnwr Leigh Halfpenny.
Mae’r prif hyfforddwr Warren Gatland yn dweud na fydd e ar gael am “gwpwl o gemau” ar ddechrau’r gystadleuaeth.
Cafodd ei enwi yn y garfan er ei fod e’n dioddef o gyfergyd ers tri mis, ond dydy e ddim wedi gwella mewn pryd ar gyfer dechrau’r gystadleuaeth nos Wener nesaf (Chwefror 1).
“Mae e’n gwella, ac mae e wedi cymryd rhan yn y sesiynau ymarfer ac o’n safbwynt ni, rydyn ni am iddo ddychwelyd yn araf bach,” meddai Warren Gatland.
Mae amheuon hefyd ynghylch ffitrwydd y mewnwr Gareth Davies a’r canolwr Scott Williams.
Gêm olaf yn erbyn Iwerddon
Yn ôl Warren Gatland, y gêm olaf yn erbyn Iwerddon fydd yr un allweddol.
Mae’r Gwyddelod yn cael eu hystyried ymhlith y ffefrynnau ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd eleni, meddai.
“Mae Iwerddon yn haeddu bod yn rhif dau yn y byd, ac fe allech chi ddadlau mai nhw yw’r goreuon, mewn gwirionedd.
“Nhw yw’r ffefrynnau i ennill Cwpan y Byd, yn briodol felly.”