Mae’r gyrrwr rali o Ddolgellau, Elfyn Evans, yn gobeithio cael blwyddyn lwyddiannus eleni, wrth iddo baratoi i ddechrau ar ei ymgyrch Pencampwriaeth y Byd yn Monte Carlo yr wythnos nesaf (Ionawr 24-27).
Yn dilyn ei fuddugoliaeth fawr yn Rali GB Cymru yn 2017, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un rwystredig i’r gyrrwr 30 oed, gyda chyfres o ddamweiniau a phroblemau mecanyddol yn ei arafu.
Ond er gwaethaf y rhwystrau hyn, mae Elfyn Evans bellach wedi’i benodi’n arweinydd ar Dîm Rali’r Byd M-Sport Ford, yn dilyn ymadawiad y pencampwr presennol, Sébastian Ogier, i dîm Citroën.
“Rydyn ni’n cychwyn 2019 gyda thudalen lân ac yn barod i gychwyn arni,” meddai Elfyn Evans.
“Mae’n rhaid i ni anelu’n uchel, gwneud ein gorau glas ac ymladd am fuddugoliaethau.
“Yn sicr, ennill yw’r nod.”