Mae Caerdydd wedi arwyddo’r ymosodwr Oumar Niasse ar fenthyg o Everton am weddill y tymor.

Yn 2016 fe dalodd Everton £13.5 miliwn i Lokomotiv Moscow am yr ymosodwr rhyngwladol o Senegal.

Hyd yma mae wedi cael tymor siomedig a dim ond wedi chwarae saith gwaith i Everton.

Fe allai Oumar Niasse fod ar gael ar gyfer gêm Caerdydd yn Newcastle yfory.

Ac fe fydd gan Gaerdydd y dewis o’i arwyddo yn barhaol ddiwedd y tymor.

Mae’r clwb yn parhau gydag ymdrech i arwyddo’r ymosodwr Emiliano Sala o Nantes am £15 miliwn.