Mae’r chwaraewr tenis Andy Murray wedi dweud ei fod yn bwriadu ymddeol ar ôl Wimbledon oherwydd anaf i’w glun.

Mewn cynhadledd newyddion emosiynol, dywedodd  Andy Murray, 31, nad oedd yn rhagweld y gallai “chwarae drwy’r boen am bedwar neu bum mis arall.”

Ychwanegodd y gallai Pencampwriaeth Agored Awstralia wythnos nesaf fod ei dwrnamaint olaf a’i fod wedi bod mewn poen ers tua 20 mis.

“Dw i wedi gwneud bron popeth alla’i i drio gwneud i’r glun wella a dyw e ddim wedi helpu llawer. Dw i mewn lle gwell nag oeddwn i chwe mis yn ôl ond dw i dal mewn llawer o boen. Mae wedi bod yn galed.”

Ei fwriad, meddai, oedd dod a diwedd i’w yrfa tenis yn Wimbledon “ond dw i ddim yn siŵr a fydda’i yn gallu gwneud hynny.”