Mae Graham Potter yn cyfaddef fod y profiad o reoli tîm Abertawe dros gyfnod y Nadolig ac wynebu ei ffenest drosglwyddo Ionawr gyntaf yn “her”.
Fe fu’n siarad â golwg360 ar ôl cyfnod prysur i’w dîm, wrth iddyn nhw chwarae pum gêm rhwng Rhagfyr 22 a Ionawr 5. Ennill dwy, colli dwy ac un gêm gyfartal oedd eu hanes yn ystod y cyfnod hwnnw.
Maen nhw’n teithio i Preston ar gyfer gêm yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.
Daeth y fuddugoliaeth ddiweddaraf – o 3-0 oddi cartref yn erbyn Aston Villa – yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn diwethaf, ddiwrnodau’n unig ar ôl i’r ffenest drosglwyddo agor unwaith eto.
Cafodd y clwb eu beirniadu yn yr haf am eu diffyg gweithgarwch yn ystod y ffenest drosglwyddo ac mae Graham Potter yn dweud bod y mis hwn wedi bod yr un mor dawel hyd yn hyn.
Dywedodd Huw Jenkins, cadeirydd y clwb, yn ddiweddar mai polisi’r clwb erbyn hyn yw datblygu’r to iau – a’r datganiad hwnnw wedi cythruddo’r cefnogwyr sy’n dal yn ddig â pherchnogion Americanaidd y clwb.
“Ychydig o’r ddau,” meddai Graham Potter wrth golwg360 wrth geisio dewis rhwng y wefr o arwyddo chwaraewr newydd a’r balchder o weld chwaraewr ifanc yn tyfu.
“Ond dyna waith rheolwr. Rhaid i chi wneud ychydig o’r ddau, ond mae’n sicr yn braf yn gweld rhywun yn gwella.”
Datblygu’r to iau
Mae’n cyfeirio at y chwaraewr canol cae Matt Grimes, yr amddiffynnwr Joe Rodon a’r ymosodwr Oli McBurnie fel enghreifftiau o chwaraewyr sydd wedi datblygu ers iddo fe gael ei benodi’n rheolwr ar ddechrau’r tymor.
“Dw i’n gweld Matt Grimes yn esiampl o hyn wrth iddo fe ddod o sefyllfa ar ddechrau’r tymor lle’r oedd Northampton [lle’r oedd e ar fenthyg y tymor diwethaf] wedi disgyn i’r Adran Gyntaf, a’r ansicrwydd i ba gyfeiriad roedd ei yrfa’n mynd.
“Mae e wedi gwella’n sylweddol ac mae hynny’n rhoi cymaint o falchder i rywun ag y mae unrhyw fuddugoliaeth.
“Mae’r un peth yn wir am Joe Rodon yn dod i mewn i’r tîm cyntaf neu Oli McBurnie yn addasu yn ystod ei dymor cyntaf yn y Gynghrair fel chwaraewr rhif naw.
“Mae Connor Roberts yn chwarae yn ei dymor cyntaf gyda ni yn y Bencampwriaeth, a hyd yn oed Leroy [Fer, y capten] yn perfformio i safon uchel… Gallwn i fynd ymlaen ac ymlaen.”
Record dda wrth recriwtio
Does dim dal ar hyn o bryd a fydd cefnogwyr Abertawe’n gweld potensial llawn Graham Potter wrth ddenu chwaraewyr newydd i’r Liberty cyn diwedd y mis.
Bydd hynny’n dibynnu i raddau helaeth ar y gyllideb sydd ar gael gan y perchnogion.
Ond mae’n gadarn ei amddiffyniad o’i record wrth recriwtio chwaraewyr pan oedd e’n rheolwr ar dîm Östersunds yn Sweden, wrth fynd o’r tîm o’r bedwaredd adran i’r adran gyntaf.
“Fe wnaethon ni’n dda yn fy swydd flaenorol yn nhermau recriwtio,” meddai.
“Dydy hi ddim yn hawdd dod o hyd i chwaraewr sy’n gallu mynd yn syth i mewn i’r tîm ac yn gallu ateb yr holl broblemau, hyd yn oed os oes gyda chi lyfr sieciau di-ben-draw oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae ein chwaraewyr ni yma’n dda ac mae’r farchnad yn awgrymu nad yw’n hawdd gwella ar hynny.
“Gall arwyddo chwaraewyr gymryd peth amser. Rydych chi’n bwrw ati ac yn y pen draw, fe welwch chi welliant.
“Fyddwn i ddim wedi mynd o’r bedwaredd adran i’r adran gyntaf yn Sweden gyda’r un 11 o chwaraewyr.”
Gweithio dros gyfnod y Nadolig
Yn ogystal â chael blas ar ffenest drosglwyddo Ionawr am y tro cyntaf, cafodd Graham Potter brofiad newydd arall wrth reoli tîm dros gyfnod y Nadolig am y tro cyntaf yn ei yrfa.
“Fel arfer, byddwn i wedi bod ar fy ngwyliau yn gwylio pawb arall ac yn meddwl, “Beth maen nhw’n ei wneud? Twpsod!” A nawr dw i yma fel y twpsyn!”
Collodd yr Elyrch o 1-0 oddi cartref yn Aston Villa a chael gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Wigan, cyn curo Reading o 4-1 ar Ddydd Calan.
Mae toriad yn y tymor yn Sweden ym mis Rhagfyr a Ionawr – ond mae Graham Potter yn dweud bod cynnal gemau yn ystod y cyfnod hwn yng Nghymru a Lloegr yn rhan hanfodol o’r traddodiad.
“Doedd y canlyniadau ddim yn wych, ond fe wnes i fwynhau’r her,” meddai. “Dyna pam rydyn ni yma.
“Mae’n gyfnod dwys iawn. Dw i’n trio bod yn onest o ddweud nad yw’n hawdd i ni gyda’r chwaraewyr sydd gyda ni sydd yn gorfod chwarae.
“Dydyn ni ddim yn griw o chwaraewyr 28 neu 29 oed sy’n brofiadol yn y Bencampwriaeth neu’r Uwch Gynghrair. Rhaid i chi weithio allan beth yw eu capasiti nhw. Weithiau, fe gewch chi’r peth yn iawn, weithiau fe gewch chi’r peth yn anghywir.
“Ond mae’n fater o ddysgu, a gobeithio y byddwch chi ar eich ennill oherwydd hynny. Fe ddaethon ni drwy gyfnod anodd ac os ydych chi’n dod drwyddyn nhw, rydych chi’n cryfhau.”