Nicole Cooke
Roedd y Gymraes Nicole Cooke o fewn un safle i gipio medal ym Mhencampwriaeth Seiclo Ffordd y Byd yn Copenhagen ddoe.
Yn anffodus iddi hi, methodd a gorffen y ras yn y tri uchaf o drwch blewyn wrth i’r ferch o’r Eidal, Giorgia Bronzini gipio’r teitl.
Enillodd Cooke y fedal aur nôl yn 2008, ond rhoi cymorth i’r ferch arall o Brydain, Llizzie Armitstead oedd ei rôl i fod ddoe.
Cafodd Armistead ei dal nôl mewn damwain gyda cilomedr o’r ras yn weddill gan olygu mai’r Gymraes oedd unig obaith Prydain o gipio medal ar y linell, ond methodd a gwneud hynny.
Cynorthwyo Cavendish
Roedd canlyniad ras y dynion yn llawer mwy derbyniol i Geraint Thomas wrth i Mark Cavendish gipio’r fedal aur.
Thomas oedd prif gynorthwywr Cavendish yn y sbrint fyddai’n penderfynu’r canlyniad yn Nenmarc, ac felly roedd yn aelod allweddol o’r tîm o wyth oedd yn dathlu buddugoliaeth y gwibiwr o Ynys Manaw ddoe.
Roedd y Cymro wrth ei fodd â llwyddiant Cavendish.
“Fe ydy’r boi cyflymaf yn y byd ynde?” meddai Thomas.
“Mae ‘e wedi profi hynny nawr. Mae e’n bencampwr y byd.”
Geraint Thomas oedd yr ail Brydeiniwr i orffen, a hynny’n safle rhif 81, 16 eiliad tu ôl i’r enillydd.