Roedd ras aeaf Ultra Pen Llŷn ddydd Sadwrn (Tachwedd 10) yn un “go hegar”, yn ôl yr enillydd Huw Jack Brassington.
Fe fu’n siarad â golwg360 drannoeth ei fuddugoliaeth, ac yntau wedi bod yn paratoi ers mis yn unig ar gyfer yr her o gwblhau’r ras 35.5 milltir mewn llai na deg awr.
Ac yntau wedi hen arfer â rhedeg, roedd yr her y tro hwn yn dra gwahanol i’r arfer o’i chwblhau yn ystod misoedd y gaeaf, meddai.
“Mae’r ddaear yn drymach, mae’n wlyb, ti’n gorfod cario mwy o cit efo ti achos ti ddim yn gwybod os ydi o’n mynd i fwrw neu beidio.
“Y peth mwya’ ydi’r cit ti angen, a’r llwybrau’n fwdlyd ac yn drwm.
“Ti’n pwyso mwy ac mae bob dim yn cymryd dipyn bach mwy o egni, sy’n gneud o’n anoddach.
“Roedd hi’n ras benigamp oedd wedi ei threfnu yn wych ac yn dangos Pen Llŷn ar ei orau.”
Dim rasys i ddod – ond sgwrs am redeg
Fe gaiff seibiant o redeg am y tro, er ei fod yn “hanner sbïo” ar ras yn Japan y flwyddyn nesaf.
Ond siarad am redeg rasys mynydd fydd yn cael ei sylw dros y misoedd nesaf, wrth iddo baratoi at ddigwyddiad arbennig yn Galeri Caernarfon ar Fawrth 2.
Fe fydd yn arwain sgwrs ar redeg rasys mynydd, a fydd yn cynnwys y rhedwyr mynydd Steve Birkinshaw a Carol Morgan, yn ogystal â’r gyflwynwraig deledu a’r athletwraig Lowri Morgan, oedd wedi gorffen y ras ddoe yn yr ail safle ymhlith y merched ac yn bumed ar y cyfan.
Mae Huw yn edrych ymlaen yn arbennig at groesawu “y rhedwr mynydd gorau erioed”, Billy Bland i Gymru, ac yntau wedi ei “berswadio” i gymryd rhan yn y digwyddiad.
“Mae’n un o’r goreuon, ac yn 70 oed bellach. Dydi o erioed wedi gadael y Lake District o’r blaen i wneud sgwrs, ond dwi wedi’i berswadio fo. Mae o wedi cytuno i ddod am y sgwrs.
“Bydd y rhan fwyaf yn Saesneg, ond bydda i’n dechrau a gorffen yn Gymraeg, a bydda i’n sgwrsio dipyn bach yn Gymraeg efo Lowri, yn amlwg.”
Yn ystod y digwyddiad, bydd ffilm ar redeg mynydd yn cael ei dangos, a bydd y cogydd teledu Chris Roberts ar gael i ddarparu bwyd ar gyfer y digwyddiad.