Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi canmol y chwaraewyr ar ôl iddyn nhw guro Awstralia am y tro cyntaf ers 2008.
Roedden nhw’n fuddugol o 9-6 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar ôl 13 ymgais blaenorol. Dyma seithfed buddugoliaeth y Cymry o’r bron – eu rhediad gorau o dan arweiniad Warren Gatland, a’u rhediad gorau ers 2004-05.
“Ro’n i’n stryglo yn y munudau olaf,” meddai Warren Gatland wedi’r fuddugoliaeth.
“Ro’n i’n meddwl y byddai’n déjà vu – y bydden ni’n colli yn y funud olaf, ond fe wnaeth y bois ddal ati.
“O safbwynt yr amddiffyn, dyna’r mwyaf cyfforddus dw i wedi teimlo erioed yn erbyn Awstralia.”
Leigh Halfpenny
Fe allai’r canlyniad fod wedi bod yn dra gwahanol ar ôl i Leigh Halfpenny fethu dwy gic at y pyst yn yr hanner cyntaf.
Ond fe giciodd e ddwy gic arall cyn i’r eilydd Dan Biggar lwyddo â chic dyngedfennol dair munud cyn y chwiban olaf.
Ar y pryd, roedd y sgôr yn 6-6 ar ôl i Bernard Foley a Matt Toomua gicio ciciau cosb i Awstralia.
“Do’n i ddim yn meddwl y gwelwn i’r diwrnod pan fyddai Leigh yn methu dwy [gic] o flaen y pyst,” meddai Warren Gatland.
“Mae e’n canolbwyntio cymaint a do’n i ddim yn poeni amdano fe’n methu’r ciciau. Roedd yn effeithio fwy ar weddill ei gêm.
“Roedd ei berfformiad yn rhagorol. Rhedodd e’n dda iawn – roedd yr elfen yna wedi plesio.
“Pe bai e wedi methu ciciau fel yna yn y gorffennol, fe allai e fod wedi chwalu, ond dydy chwaraewyr o safon fyd-eang ddim yn gadael i bethau felly ddigwydd.”