Geraint Thomas
Roedd yn ddiweddglo ddigon siomedig i’r Tour of Britain i’r Cymro Geraint Thomas wrth iddo orffen yn y deuddegfed safle yn y ras gyffredinol ddoe.

Methodd Thomas ag adfer ei sefyllfa ar ôl damwain a diwrnod siomedig yng nghymal 6 y daith ddydd Gwener.

Roedd hynny’n golygu iddo dreulio’r deuddydd olaf yn ceisio helpu ei dîm i ennill y gystadleuaeth i dimau, yn ogystal â’r gyd-reidiwr  yn nhîm Sky, Steve Cummings i orffen mor uchel â phosib yn y tabl.

Bydd yn hapus felly fod Sky wedi dod i’r brig a Cummings wedi gorffen yn ail yn y ras gyffredinol.

Yr unig gysur arall i Thomas oedd iddo ennill y gystadleuaeth bwyntiau gyffredinol dros yr wythnos hefyd.

Boom y buddugwr

Lars Boom o Rabobank oedd yn fuddugol yn y daith, mewn amser o 26 awr 57 munud a 35 eiliad. Roedd Cummings 36 eiliad y tu ôl iddo a Jan Barta o Team NetApp yn drydydd.

Roedd Geraint Thomas yn ddeuddegfed, 1 munud a 55 eiliad ar ôl yr enillydd.

Thomas yn gyson

Mae Geraint Thomas wedi bod yn gyson trwy’r daith o ran gorffen yn y safleoedd uchaf ac roedd hynny’n wir dros y deuddydd olaf hefyd.

Degfed oedd y Cymro yn y cymal o St Edmunds i Sandringham ddydd Sadwrn, 1:23 tu ôl i’r enillydd Gediminas Bogdonas o dîm An Post – Sean Kelly.

Roedd dwy ras i orffen y daith yn Llundain ddoe, ac fe orffennodd Thomas yn bumed yn y ras amser unigol tra’i fod yn bedwerydd yn y cymal syrcit i orffen y daith, gyda Mark Cavendish i Ynys Manaw’n cipio’r fuddugoliaeth.

Mae ei gysondeb yn golygu ei fod wedi dod i’r brig yng nghystadleuaeth pwyntiau’r ras gyda 70 o bwyntiau – tri yn fwy na Cavendish yn ail.