Mae timau yn cael eu torri ar gyfer tair o brif rasys beics y Tour de France, Giro d’Italia a’r Vuelta a Espana – a bydd y Tour de France yn dechrau wythnos yn hwyrach er mwyn osgoi gwrthdaro â Chwpan y Byd pêl-droed yn Rwsia.
Mae dod ä nifer y reidwyr i lawr o naw i wyth wedi bod ar yr agenda ers peth amser er mwyn ceisio gwneud y rasio’n fwy cyffrous, a thrio’i gwneud hi’n fwy anodd i’r timau sy’n arwain i reoli.
Mae yna ystyriaethau diogelwch hefyd.
Oherwydd y penderfyniad bydd maint y prif grwp o feicwyr – y ‘peleton’ – yn dod i lawr i 176 o reidwyr.
Mae nifer o ddamweiniau wedi bod rhwng cerbydau’r ras a’r beicwyr – bu farw beiciwr o Wlad Belg, Antoine Demoitie, (Wanty-Groupe Gobert) ar ôl gwrthdaro a beic modur y ras yng nghyfres Ghent-Wevelgem 2016.
Mwy o siawns
“”Un o’r rhesymau mae’r UCI wedi cyfyngu’r timau i wyth beiciwr eleni yw ceisio arbed Tím Sky rhag ennill unwaith eto, a rhoi mwy o siawns i dimau eraill,” meddai’r sylwebydd seiclo, Peredur ap Gwynedd wrth golwg360.
“Ond un peth i’w gofio, fe enillodd Sky y llynedd gyda thîm o wyth beiciwr.”
Bydd y Giro d’Italia yn dechrau yn Israel ac yn para rhwng Mai 4-27.