Mae’r daflwraig gwaywffon, Hollie Arnold, wedi torri record y byd, ynghyd â sicrhau medal aur, yng Ngemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur.
Dyma’r fedal fwyaf ddramatig i Dîm Cymru ei hennill yn y Gemau sy’n cael eu cynnal yn Awstralia, wedi i Hollie Arnold faeddu Holly Robinson o Seland Newydd yng y gystadleuaeth taflu’r waywffon F46.
Yn rownd gyntaf y gystadleuaeth, doedd pethau ddim yn edrych yn dda i’r ferch o Hengoed, ger Caerffili, wrth i Holly Robinson dorri record y byd am daflu’r waywffon i’r pellter o 43.32m.
Ond erbyn y rownd olaf, fe gipiodd Hollie Arnold y blaen trwy wneud tafliad o 44.42m, gan gipio’r fedal aur a thorri’r record flaenorol yn sgil hynny.
Llwyddiannau’r Cymry
Hyd yn hyn, mae Tîm Cymru wedi sicrhau 15 o fedelau yn y Gemau, gan gynnwys pump medal aur, chwech arian, a phedair efydd.
Yn ddiweddarach heddiw (dydd Llun, Ebrill 9), fe gipiodd Daniel Salon a Marc Wyatt y fedal aur yn y gystadleuaeth fowlio, wedi iddyn nhw guro’r Albanwyr Alex Marshall a Paul Foster.
Mi fydd pumed medal aur i Alex Marshall wedi golygu y byddai’n torri’r record yn yr Alban fel yr athletwr mwyaf llwyddiannus yng Ngemau’r Gymanwlad.