Aberystwyth a Chei Connah fydd yn herio ei gilydd yn ffeinal Cwpan Cymru fis nesaf… ond y dynion o Lannau Dyfrdwy sydd wedi cael y sylw ar ôl trechu Bangor o 6-1 nos Sadwrn (Ebrill 7).

“Er bod ni cael tymor gwych ac wedi rhoi’r Seintiau Newydd allan o’r cwpa, roedden ni’n teimlo fel yr underdog oherwydd roedden nhw wedi’n curo ni dair gwaith yn barod y tymor hwn,” meddai amddiffynnwr Cei Connah, Jake Phillips, wrth golwg360

“Roedd hi’n gêm boncyrs… o’n i ar y fainc tan y deng munud olaf, roeddan ni’n metho coelio be oedd yn digwydd!

“I fod yn onest, roedd yr ugain munud cyntaf yn iawn, y ddau dîm yn creu cyfleon… ond cyn gynted ag aeth y gôl gyntaf i mewn, roeddan ni’n gweld pennau chwaraewyr Bangor yn disgyn…

“Eto, pan oedd hi’n 3-0, mi oedd ein rheolwr ni (Andy Morrison) yn pwysleisio arnon ni i ffocysu… ond pan aeth yn 4-0, oeddan ni’n meddwl bod y gêm drosodd.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael gweld lle bydd y ffeinal,” meddai Jake Phillips wedyn.

“Mae Aber wedi arfer chwarae ar 4G a ni ar wair, ond heb os mae ganddon ni dair gêm bwysig i chwarae yn y gynghrair cyn y ffeinal.

“Gobeithio y ca’ i fwy o funudau yn y gemau nesaf i geisio cael fy lle yn y ffeinal. Mi faswn i wrth fy modd yn ennill y cwpan, dyna pam ydan ni yn y gêm i ennill cwpanau a chwarae mewn gemau mawr.”