Y nofwraig, Jazmin ‘Jazz’ Carlin, sydd wedi’i dewis i gario baner y Ddraig Goch i Gymru yn seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur yfory (dydd Mercher, Ebrill 4).
Yn ystod ei gyrfa yn y pwll, mae’r ferch 27 oed o Abertawe wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys medal aur yn y Gemau yn Glasgow yn 2014, dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro yn 2016.
Eleni fydd y pedwerydd tro i Jazz Carlin gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ers 2006, ac fe fydd yn cystadlu yn y 400m dull rhydd, y 800m a’r ras gynhenid 4×200.
Fe fydd y seremoni agoriadol swyddogol yn cael ei chynnal yn Stadiwm Carrara am 8yh (11yh yng Nghymru), lle bydd Jazz Carlin yn arwain 200 o athletwyr a swyddogion o Gymru.