Seffield Utd 1–1 Caerdydd
Achubodd gôl hwyr Anthony Pilkington bwynt i Gaerdydd wrth iddynt ymweld â Bramall Lane i wynebu Sheffield Utd yn y Bencampwriaeth nos Lun.
Mae’r Adar Gleision wyth pwynt yn glir o’r trydydd safle yn y tabl diolch i gôl yr eilydd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen pan grafodd ergyd Leon clarke i’r gornel isaf gyda chymorth gwyriad wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae.
Roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl ac fe gynyddodd y pwysau ar gôl Sheffield Utd wrth i’r hanner fynd yn ei flaen.
Serch hynny, roedd hi’n ymddangos fod y tîm cartref am ddal eu gafael tan i Pilkington gipio pwynt hwyr dramatig i’r ymwelwyr o Gymru, yn gorffen yn daclus ar y foli wedi ychydig o dennis pen yn y cwrt cosbi.
Yn dilyn wyth buddugoliaeth o’r bron, mae’r canlyniad hwn yn dod â’r rhediad i ben ond yn rhoi tîm Neil Warnock wyth pwynt yn glir yn yr ail safle yn y tabl gyda saith gêm yn weddill.
.
Sheffield Utd
Tîm: Moore, Basham, Stearman (Wright 69’), O’Connell, Baldock, Lundstram, Evans (Leonard 88’), Fleck, Stevens, Brooks (Donaldson 72’), Clarke
Gôl: Clarke 28’
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Paterson, Grujic, Gunnarsson, Mendez-Laing (Madine 45’), Zohore (Pilkington 78’), Hoilett (Wildschut 78’)
Gôl: Pilkington 90+1’
Cerdyn Melyn: Bennett 29’
.
Torf: 25,231