Mae beiciwr sy’n hanu o Gapel Dewi ger Aberystwyth wedi bod yn ymarfer yng ngwlad Groeg ers dechrau Ionawr, wrth baratoi ar gyfer tymor newydd gyda thim SEG Racing Academy.
Mae Stevie Williams, 21, sy’n arbenigo mewn dringo, yn edrych ymlaen at ddechrau rasio yng ngwlad Belg fis Mawrth, ac mae wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru yng ngemau’r Gymanwlad yn Arfordir Aur, Awstralia.
“Ro’n i’n chwarae nifer o gampau pan yn yr ysgol, ac roedd gen i feic… ond seiclo am hwyl o’n i, a dweud y gwir,” meddai wrth golwg360.
“Doeddwn ddim á diddordeb i wylio’r rasus ar deledu a phallu. Ges i feic un Nadolig, ac ef ddechreues i feicio a sylweddoli fy mod i’n mwynhau. Wnes i ddechrau mynd i rasus y Crits yn Aberystwyth, ac roedd nifer yn fy mhasio, felly wnes benderfynu ceisio gwella a’i gymryd o ddifri!”
Cyfle i feicwyr ifanc
“Rwy’ i wedi cystadlu mewn nifer o rasus ledled Prydain dros y blynyddoedd a chefais gynnig ymuno a thím SEG Racing Academy, tim sy’n rhoi cyfle i feicwyr ifanc i gystadlu yn yr oedran o dan-23 ac cheisio addysgu beicwyr ifanc i fod yn ser y dyfodol,” meddai wedyn.
Fe ddaeth Stevie Williams yn ail yn ras Flèche Ardennaise y llynedd, canlyniad gwych, ond y nod yn Awstralia fydd cael y profiad a dysgu gan y beicwyr profiadol fel Luke Rowe.
“Ar ôl Gemau’r Gymanwlad bydd y ffocws ar weddill y tymor, ond gyda’r bwriad o neud yn dda yn y ‘Baby Giro d’Italia fis Mehefin,” meddai Stevie Williams. “Roedd Scott Davies sy’n mynd i Gemau’r Gymanwlad wedi gwneud yn dda ynddi yn 2014, a fy mwriad fydd i ailadrodd ei berfformiad o orffen yn bedwerydd.
“Mi fydda’ i hefyd yn targedu’r rasus undydd fel Liège-Bastonge-Liège, Flèche Ardennais ar rasus cymal bryniog yn cynnwys Ronde de l’Isard, yn sicr pe bai pethe mynd yn dda byswn yn hoffi cystadlu yn y Tour de l’Avenir fis Awst.