Abertawe 2–0 Sheffield Wednesday                                         

Mae Abertawe yn rownd go-gynderfynol y Cwpan FA ar ôl trechu Sheffield Wednesday mewn gêm ail chwarae ar y Liberty nos Fawrth.

Wedi gêm gyfartal ddi sgôr yn Hillsborough wythnos a hanner yn ôl, rhaid oedd ail chwarae’r gêm bumed rownd at noson oer yn Abertawe. Ac er gwaethaf hanner cyntaf di sgôr eto, yr Elyrch aeth â hi yn y diwedd diolch i goliau ail hanner Jordan Ayew a Nathan Dyer.

Abertawe a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ond hanner cyfleoedd yn unig a grewyd gan y tîm cartref.

Newidiodd hynny wedi’r egwyl wrth i’r eilydd hanner amser, Ayew, agor y sgorio wedi deg munud, yn rhwydo wedi i ergyd Tom Carroll daro, nid un ond dau bostyn.

Cafodd Wednesday eu cyfnod gorau wedi hynny ond llwyddodd amddiffyn Abertawe i ymdopi’n ddigon cyfforddus.

Ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ddeg munud o’r diwedd wrth i Dyer rwydo’r ail yn dilyn gwaith da Ayew yn ennill y meddiant a phas dreiddgar Tammy Abraham.

Mae’r fuddugoliaaeth yn rhoi Abertawe yn wyth olaf y Cwpan FA am y tro cyntaf ers 1964 a’u gwobr fydd gêm gartref yn erbyn Tottenham neu Rochdale.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, van der Hoorn, Fernandez, Bartley, Roberts, Ki Sung-yueng (Olsson 45’), Carroll, Clucas, Dyer (Britton 83’), Abraham, Routledge (J. Ayew 45’)

Goliau: J. Ayew 55’, Dyer 80’

.

Sheffield Wednesday

Tîm: Dawson, Venancio, Loovens, Pudil, Hunt (Palmer 38’), Butterfield (Nuhiu 68’), Jones, Reach, Boyd, Rhodes (Abdi 81’), Lucas Joao

Cerdyn Melyn: Rhodes 65’

.

Torf: 8,198