Fe fydd Ryan Day yn herio Li Hang o Tsieina heno am le yn wyth olaf Pencampwriaeth Snwcer y DU yng Nghaerefrog.
Y chwaraewr 37 oed o Bontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr yw’r unig un o’r dwsin o Gymry a ddechreuodd y gystadleuaeth sy’n dal i fod ynddi.
Fe gurodd e Mark Williams o Went o 6-5 yn y rownd ddiwethaf, ar ôl bod ar ei hôl hi o bedair ffrâm i un.
Dyma’r tro cyntaf ers pum mlynedd i Ryan Day gyrraedd yr 16 olaf.
Mae e eisoes wedi curo Li Hang eleni, a hynny ym Mhencampwriaeth Agored Gogledd Iwerddon yn Belffast bythefnos yn ôl.