Mae’r Cymro Cymraeg o Bontarddulais wedi ennill bonws o $50,000 ar ôl i’w fuddugoliaeth gael ei henwi’n berfformiad gorau’r noson yn Las Vegas.

Fe gipiodd yr ymladdwr crefftau ymladd cymysg fuddugoliaeth hanesyddol yn oriau man y bore ma dros yr Americanwr Joe Soto.

Roedd e’n ymladd yn yr Ultimate Fighter Finale, sef uchafbwynt haen ucha’r gamp.

Fe gurodd ei wrthwynebydd mewn 30 eiliad wrth gloi ei goesau, ac fe ildiodd yr Americanwr wrth i’r Cymro ymosod ar groth ei goes – yr ail waith yn unig i’r symudiad hwnnw gael ei gwblhau’n llwyddiannus yn yr Octagon, a’r tro cyntaf ers i Charles Oliveira drechu Eric Wisely yn 2012.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Brett Johns bellach yn ddi-guro mewn 15 o ornestau.