Cafodd y canolwr Hadleigh Parkes ei enwi’n seren y gêm am ei ddau gais wrth i Gymru guro De Affrica o 24-22 yn Stadiwm Principality.
Roedden nhw ar y blaen o 21-10 ar yr egwyl ar ôl sgorio tri throsgais o’i gymharu ag un i’r ymwelwyr.
Hadleigh Parkes yw’r chwaraewr cyntaf i sgorio dau gais yn ei gêm gyntaf dros Gymru ers George North yn 2010 – yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.
Daeth y cais arall gan y canolwr Scott Williams ar ôl i Hallam Amos gasglu’r bêl oddi ar gic Dan Biggar o fewn pum munud i’r chwiban gyntaf.
Sgoriodd Warwick Gelant gais i Dde Affrica cyn yr egwyl, ac fe gafodd ei drosi gan Handre Pollard, oedd hefyd wedi llwyddo â chic gosb yn dilyn tacl uchel arno fe ei hun gan Josh Navidi.
Ail hanner
Collodd De Affrica eu capten Eben Etzebeth ar yr egwyl drwy anaf ac roedden nhw dan bwysau o funud gynta’r ail hanner.
Ond fe lwyddodd Handre Pollard i sgorio cais i ddod â’i dîm yn ôl o fewn pum pwynt.
Ar ôl 55 munud, croesodd yr asgellwr Jesse Kriel groesi am gais a gafodd ei drosi gan Pollard, ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.
Ond wrth i Dde Affrica frwydro am feddiant, fe ildion nhw gic gosb am ddal eu gafael ar y bêl yn y sgarmes, ac fe giciodd Leigh Halfpenny y triphwynt i fynd ar y blaen unwaith eto o 24-22.
Er i Rhys Patchell wneud llanast o glirio’r bêl, fe lwyddodd Cymru i aros ar y blaen cyn i’r bêl fynd dros yr ystlys am y tro olaf, a Chymru’n fuddugol o ddau bwynt.