Mae Cymru ar y blaen o 21-10 yn erbyn De Affrica ar yr egwyl yn Stadiwm Principality, ac maen nhw wedi sgorio tri throsgais o’i gymharu ag un i’r ymwelwyr.
Hadleigh Parkes yw’r chwaraewr cyntaf i sgorio dau gais yn ei gêm gyntaf dros ei wlad ers George North yn 2010 – yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.
Dyw Cymru erioed wedi sgorio pedwar cais yn erbyn y Springbok, ond dim ond un arall sydd ei angen arnyn nhw yn yr ail hanner.
Daeth y cais arall gan y canolwr Scott Williams ar ôl i Hallam Amos gasglu’r bêl oddi ar gic Dan Biggar o fewn pum munud i’r chwiban gyntaf.
Sgoriodd Warwick Gelant gais i Dde Affrica cyn yr egwyl, ac fe gafodd ei drosi gan Handre Pollard, oedd hefyd wedi llwyddo â chic gosb yn dilyn tacl uchel arno fe ei hun gan Josh Navidi.