Christian Malcolm
Mae Christian Malcolm, y rhedwr o Gymru, wedi ei enwebu yn gapten ar dîm Athletau Prydain ar gyfer y Pencampwriaethau Byd yn Daegu ar ddiwedd y mis.

Derbyniodd Malcolm fedal arian ym mhencampwriaethau athletau Ewropeaidd y flwyddyn yma, 15 mlynedd ar ôl cynrychioli tîm Prydain am y tro cyntaf.

Mae’n 32 erbyn hyn, ac efe fydd yn arwain y tîm fydd yn teithio i Dde Korea ar gyfer pencampwriaethau pwysicaf y flwyddyn.

Mae’n un o dri Chymro yn y tîm, gyda’r taflwr discus, Brett Morse a’r rhedwr 400m dros y clwydi, Dai Greene, yn cystadlu hefyd.

Ond fe fethodd Rhys Williams, rhedwr 400m arall o Gymru a chyrraedd y safon.

“Mae hwn anrhydedd mawr i mi, allai’m credu’r peth. Dwi’n falch iawn o gael capteinio fy ngwlad,” meddai.

“Rydw i wedi cael sawl siom a buddugoliaeth yn ystod fy ngyrfa, ac felly gobeithio y galla’i gynnig gair o gysur neu longyfarchiadau fel y bo’r angen.”

Caiff Dai Greene ei ystyried yn un o obeithion mawr y tîm ar gyfer medal aur yn y bencampwriaethau, ac mae ymysg y gorau yn y byd o fewn ei gamp erbyn hyn.