Jones yn ei ôl?
Mae nifer fawr o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer yr ail ornest ‘gyfeillgar’ rhwng Cymru a Lloegr yn stadiwm y Mileniwm Ddydd Sadwrn nesaf.
Er mai dim ond gêm paratoadol cyn Cwpan Rygbi’r Byd yw hi dros 66,000 o docynnau eisoes wedi’u gwerthu – y nifer fwyaf erioed ar gyfer gêm gyfeillgar yn ystod yr haf.
Y garfan
Bydd Adam Jones, Lee Byrne a James Hook ar gael ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Lloegr.
Roedd anafiadau i droed Jones, pen glin Byrne a gwddf Hook yn golygu nad oeddent yn medru chwarae yn y tîm gollodd o drwch blewyn yn erbyn y Saeson yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Mae Warren Gatland hefyd yn gobeithio y bydd y capten Matthew Rees, Gethin Jenkins a Stephen Jones oll ar gael i herio Lloegr y tro hwn.
Mae gobaith eto i Leigh Halfpenny, sydd wedi anafu ei ffêr, ddychwelyd mewn pryd i ymddangos yn erbyn yr Ariannin yr wythnos ganlynol.
Ond mae Gatland wedi cyfaddef ei bod yn bosib na fydd cyfle i bob un chwaraewr yn y garfan gael chwarae yn ystod y gemau cyfeillgar.
“Ddylwn i barhau gyda’r cysondeb a’r momentwm trwy gadw’r un tîm gyda’i gilydd er mwyn paratoi ar gyfer Cwpan y Byd?” myfyriodd Gatland. “Dydw i heb benderfynu ar hynny eto.”
Ennill y gêm yw’r flaenoriaeth yn ôl y rheolwr, sy’n golygu ei bod yn debygol na fydd yn newid y tîm yn gyfan gwbl yn ystod yr ail ornest.
Amser yn brin
Mae Ryan Jones wedi cyhoeddi fod amser yn brin ar gyfer y chwaraewyr hynny sydd heb brofi eu gwerth i’r garfan cyn Cwpan y Byd.
“Dim ond dau brawf sydd yn weddill, cyn bod rhaid pigo’r 30 fydd yn mynd ar yr awyren, felly mae’n bwysig cael y cyfle i chwarae dipyn o rygbi,” meddai.
Cafodd Jones ei gyfle tua diwedd y gêm yn Twickenham wrth iddo gymryd lle Toby Faletau yn safle’r wythwr, ac fe dderbyniodd ganmoliaeth gan Gatland am ei berfformiad cameo.
“Roedd hi’n braf cael amser i greu argraff. Os ydych chi ar y fainc, rydych chi wastad yn poeni na fyddwch chi’n gadael am 80 munud,” meddai Jones.
Bydd y garfan o 38 yn cael ei thorri i 30 dau ddiwrnod wedi iddynt wynebu’r Ariannin ar 20 Awst.
Creadigrwydd
Mae James Hook wedi galw ar Gymru i chwarae rygbi chwim os ydynt am drechu Lloegr yng Nghaerdydd.
Er iddynt golli 23-19 ddydd Sadwrn, fe sgoriodd Cymru fwy o geisiadau na Lloegr wrth i George North groesi ddwywaith a Shane Williams sgorio’i 54fed cais i Gymru.
Roedd Hook, sydd ar ei ffordd i Perpignan wedi Cwpan y Byd, yn canmol natur ymosodol y Cymry. “Roedd hi’n neis gweld y bêl yn mynd allan i’r asgell er mwyn i George a Shane cael ceisiadau,” meddai.
“Os allwn ni wneud mwy o hynny, yna gobeithio y byddwn ni’n fygythiad mawr yn ymosodol.
“Mae gennym chwaraewyr gwych gyda dawn naturiol, ac weithiau mae angen codi pen a chwarae beth sydd o’ch blaen chi ac ymosod… gan anghofio am y strwythur.”