Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas yn parhau â’i ymdrechion clodwiw yn y Tour de France wedi bron i dair wythnos a 3,000km o rasio hirfaith.
Croesodd y llinell derfyn ddoe yn y 70ain safle, 12 munud a 36 eiliad y tu ôl i’r rheini sydd ar y blaen. Golyga hyn ei fod yn disgyn un safle yn y ras i’r 41fed, 43 munud a 43 eiliad ar ei hol hi.
Ddoe oedd yr 17eg cymal o’r 21 yn y Tour de France eleni. Teithiwyd 179km o Gap i Pinerolo – y cyntaf o dri chymal o fynyddoedd uchel gyda chyfnodau estynedig o ddringo hewlydd serth.
Un o gyd-aelodau Geraint Thomas ar dim Sky fu’n fuddugol. Wedi gweld Thor Hushovd yn cipio cymal dydd Mawrth oddi wrtho yn y metrau olaf, fe wnaeth Edvald Boasson Hagen yn sicr mai ef oedd yn fuddugol ddoe.
Roedd hi’n gymal tebyg iawn i’r un flaenorol, gyda grŵp bach yn llwyddo i dorri i ffwrdd o’r prif grŵp, a’r enwau mawr sy’n cystadlu am y crys melyn yn adennill ychydig o amser ar yr arweinydd, Thomas Voeckler o Ffrainc.
Er ei fod yn dal ei afael ar y crys melyn, fe gollodd Voeckler 27 eiliad arall i’w wrthwynebwyr – Cadel Evans, Alberto Contador a’r brodyr Schleck.
Cymal 18 heddiw fydd cymal uchaf y daith eleni – 200.5km o Pinerolo i Galibier Serre-Chevalier. Bydd rhaid dringo i fwy nag un copa sydd dros 2500 medr