Geraint Thomas - wedi adennill ychydig o dir
Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi adennill rhywfaint o dir yn y Tour de France dros y penwythnos.

Ar ddiwedd cymal heriol o 208km o Issoire i Saint-Flour dde, croesodd y llinell yn 22ain, 4 munud a 7 eiliad tu ôl i enillydd y cymal – Luis Leon Sanchez o Sbaen.

Golyga hyn ei fod wedi codi ychydig safleoedd i 32ain yn y ras gyfan, 5 munud a 51 eiliad ar ei hol hi.

Er iddo gwympo yn ôl i’r 38ain safle yn y ras ddydd Gwener, mae dal gobaith y gall Geraint fynd am grys gwyn y beiciwr ifanc gorau.

Mae wedi adennill rywfaint o’r tir a’r amser a gollwyd ac mae’n dal i fod yn 5ed ar restr y beicwyr ifanc – prin 21 eiliad tu ôl i Rein Taaramae o Estonia.

Thomas Voeckler (Ffrainc) sydd yn arwain y daith erbyn hyn wedi gorffen yn ail ddoe, Luis Leon Sanchez (Sbaen) sy’n ail, Cadel Evans (Awstralia) yn 3ydd, ac yna’r brodyr Schleck, Frank ac Andy yn 4ydd a 5ed.

Ar y llaw arall, mae Thor Hushovd, fu’n arwain y rhan fwyaf o’r ras cyn y penwythnos, wedi llithro i’r 24ain safle wedi dau gymal y penwythnos.

Damweiniau

Fe fu rhagor o ddamweiniau yn ystod y cymal ddoe.

Wrth ddod i lawr ail riw mawr y diwrnod – y Pas de Peyrol – disgynnodd nifer o feicwyr i mewn i’r ffos a’r coed wrth ymyl y ffordd. Torrodd ddau feiciwr bont ysgwydd, torrodd un arall asgwrn ei benelin a’i ffemwr, ac un arall yn torri’i arddwrn. Bu rhaid i bob un rhoi’r gorau iddi.

Roedd gwrthdrawiad mwy dadleuol i ddod. Wrth i gar sianel teledu Ffrengig geisio mynd heibio i rai beicwyr oedd yn y criw blaen, gwyrodd y car i ganol y ffordd a tharo olwyn flaen un ohonynt. Cwympodd un ar y ffordd, ond fe achosodd i un arall hedfan tin-dros-ben mewn i ffens weiren bigog wrth ochr y ffordd.

Roeddynt yn iawn, ill dau, ond roedd hon yn ddamwain oedd yn amlygu’r peryglon sy’n rhan gynhenid o’r Tour de France.

Dydd Sadwrn

Rui da Costa o Bortiwgal oedd enillydd cymal 8 y ras ddydd Sadwrn Aigurande i Super-Besse Sancy. Llwyddodd i ddal ymlaen er gwaethaf holl ymdrechion hwyr y gŵr o Wlad Belg, Phillipe Gilbert, i hawlio’i fuddugoliaeth gyntaf erioed yn y Tour de France.

Roedd Da Costa yn un o naw dorrodd i ffwrdd o weddill y maes yn ystod y ras, ond efe oedd yr unig un ohonynt oedd ar ôl yn y diwedd yn herio am y blaen wedi dringo trwy’r Massif Central.

Daliodd Gilbert ef gyda llai na 1km i fynd, a Cadel Evans o Awstralia hefyd yn ei erlid, ond roedd gan Costa ddigon yn weddill yn y tanc i’w trechu.

Dringodd Thor Hushovd gyda’r prif grŵp er mwyn dal ei afael yn y crys melyn, eiliad o flaen Cadel Evans.

Roedd Geraint Thomas yn dal i fod o gwmpas y 35ain safle wedi gorffen yn 23ain ddydd Sadwrn, 15 eiliad tu ôl i’r enillydd.

Arwain Sky?

Mae cwestiynau’n parhau am gynlluniau tîm Sky am wythnosau nesaf y ras. Pwy fydd yn ysgwyddo’r baich, a choesau pwy fydd yn cymryd straen yr holl ddisgwyliadau? Fydd rôl fwy blaenllaw i Thomas o hyn ymlaen gan mai ef sydd yn y safle gorau hyd yn hyn?

Ond dywed Thomas ar ei flog ar wefan y BBC mai ceisio’i orau i helpu’r tîm i ennill cymalau yw’r uchelgais ar hyn o bryd, ac i gefnogi ‘Rigo’ (Rigoberto Urân o Golombia) yn y mynyddoedd.