Meirion gyda'r mawrion - Osian Roberts a Marcel Desailly
Dyma’r drydedd yn y gyfres o ddyfyniadau o hunangofiant Meirion Appleton – ‘Appy: Bont, Busnes a Byd y Bêl’ sy’n cael eu cyhoeddi ar Golwg360.
Yma mae Appy’s sôn am anturiaethau rhai o fawrion gêm y bêl gron tra’n ymweld ag Aberystwyth.
Pan ddaeth John Neal â Middlesbrough i lawr i ymarfer i Aber am y tro cyntaf rwy’n cofio bod y chwaraewyr yn lletya yn Neuadd Pantycelyn. Fe gyrhaeddodd y bws ac ro’n inne yno’n eu disgwyl. Prin y gallwn gredu fy llygaid wrth weld sêr fel Graeme Souness, Terry Cooper a David Armstrong yn camu allan – chwaraewyr oedd wedi ennill capiau. Fe aeth John a finne allan wedyn i weld yr adnoddau ac i drefnu ffurf yr ymarferion. Ar ôl dychwelyd fe ddeallon ni fod dau o’r chwaraewyr wedi gadael Pantycelyn ac wedi bwcio i mewn i westy’r Belle Vue. Y ddau oedd Souness a Stuart Boam, y capten. Dyma John yn gofyn i mi fynd i lawr i’r orsaf drenau i weld pryd fyddai’r trên nesaf yn gadael am Middlesbrough ac yna codi dau docyn un ffordd.
Yn y cyfamser fe ddaeth Souness a Boam yn ôl i Bantycelyn i ddweud nad oedden nhw’n golygu lletya mewn neuadd myfyrwyr. Roedden nhw’n gyfarwydd â lletya mewn gwestai pum seren ac roedden nhw’n fodlon mynd i’w pocedi eu hunain. ‘Iawn,’ medde John, ‘ond os wnewch chi, fe fyddwch chi’n mynd adre ar y trên bore fory.’ O fewn awr roedden nhw nôl ym Mhantycelyn.
Gyda Middlesbrough ar y pryd roedd Craig Johnston a aeth ymlaen i ymuno â Lerpwl. Roedd e’n ffansïo ei hun fel chwaraewr sboncen. Bryd hynny ro’n i’n dipyn o chwaraewr sboncen fy hun. Roedd John am weld torri crib Johnston felly dyma fe’n gofyn i mi fynd ag e i un o gyrtiau’r Ganolfan Chwaraeon ac, o flaen y chwaraewyr eraill, rhoi crasfa iddo. A dyna beth wnes i, a phawb o’r lleill yn chwerthin.
Pan symudodd John i Chelsea yn 1981 fe barhaodd â’i gysylltiad ag Aber drwy ddod â’r tîm hwnnw draw i ymarfer. Fe ddaeth â’r sêr i gyd, David Speedie a Pat Nevin yn eu plith. Roedd yna reol bod y chwaraewyr i fod yn ôl ym Mhantycelyn erbyn unarddeg bob nos. Ond roedd Speedie wedi ffansïo rhyw ferch lawr yn y dre. Fe ofynnodd a wnawn i ei smyglo allan am hanner nos a dod ag e nôl yn slei bach yn y bore. Ac fe wnes.
Yn wahanol i’r rheolwr, roedd cynorthwywr John, Ian McNeill, yn hoff o’i ddiferyn. Un noson fe es i allan gyda McNeill a gofyn iddo adael ei gar yn y dre wedyn yn hytrach na gyrru i fyny i Bantycelyn. Ond na, roedd yn rhaid iddo yrru. Fe’i stopiwyd gan yr heddlu a’i gyhuddo o yrru dan ddylanwad alcohol. Roedd e’n poeni y deuai John Neal i wybod. Dyma fi, felly, yn ffonio twrne arbennig yn y dre a gofyn am ei gymorth. Ar ddiwrnod yr achos fe yrrodd Ian i’r Amwythig ac fe wnes i ei godi yno. Fe gollodd ei drwydded am flwyddyn, ond fe lwyddais i gadw’r stori o’r papurau. Hyd heddiw, dyw John ddim yn gwybod am y digwyddiad. Petai e wedi dod i wybod byddai Ian, yn sicr, wedi colli ei swydd.
Mae dau ddyfyniad arall o’r gyfrol i ddod dros y deuddydd nesaf. Mae ‘Appy: Bont, Busnes a Byd y Bêl’ yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa ac mae lansiad swyddogol y gyfrol yn y Marine, Aberystwyth ar nos Fercher 13 Gorffennaf.