Sen Segur - Duncan Goodhew yn arwr

Mae sôn y bod yna westai arbennig yn mynd i fod mewn gig yn Llanrwst nos Sadwrn yma. 

Mae’r grŵp ifanc o Ddyffryn Conwy, Sen Segur wedi estyn gwahoddiad i’r nofiwr Olympaidd Duncan Goodhew ac yn gobeithio bydd eu harwr yn troi fyny yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.

‘Taith Duncan Goodhew’ ydy enw un o ganeuon EP cyntaf Sen Segur, Pen Rhydd, sydd wedi ei ryddhau yn ddiweddar. 

Mae’r gân wedi bod yn ffefryn gyda’r gynulleidfa ar y Daith Slot Selar a ddechreuodd wythnos diwethaf, ac mae crysau T arbennig wedi eu cynhyrchu ar sail y gân.

Arwr i’r grŵp

“Rydan ni wedi gwahodd Duncan Goodhew i’r noson olaf yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy” meddai George Amor, sy’n chwarae gitâr fas i’r grŵp.

“Dwi ddim yn gwybod os neith o dderbyn y gwahoddiad, ond mae o’n dipyn o arwr i ni a byddai’n neis petai o’n gallu troi fyny i gael copi o’r EP ac un o’r crysau T.”

Creu argraff

Mae Sen Segur wedi llwyddo i greu argraff fawr ar dorfeydd taith Slot Selar hyd yn hyn. Ers noson gyntaf y daith yng Nghaerdydd, mae pobl wedi bod yn siarad ac yn trydar am ba mor dda yw’r grŵp.

Mae’r grŵp ifanc wedi bod yn cefnogi Creision Hud ar y daith, sydd hefyd yn llwyfannu’r grŵp eclectig Trwbador. Er hynny, nhw fydd yn gorffen y noson a’r daith yn Llanrwst ar 2 Gorffennaf.

Dangosiad ffilm arbennig

Fe fydd yna hefyd eitem ychwanegol i gig olaf y daith, sef dangosiad arbennig o’r ffilm ‘Capel Garmon’ gan Eryl Jones.

Eryl Jones ydy prif ganwr y grŵp Jen Jeniro, ac fe gafodd ei ffilm fer ei dangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn ystod gig gyntaf y daith yn Dempseys Caerdydd wythnos diwethaf.

Mae pentref Capel Garmon yn gorwedd ychydig filltiroedd o leoliad gig nos Sadwrn yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.