Bydd gŵyl chwaraeon newydd wedi ei threfnu gan yr Urdd yn help mawr wrth ennyn diddordeb Cymry ifanc yn y campau.

Dyna farn Gwennan Harries,  sy’n chwarae pêl droed i Gymru ac Everton, ac a fu’n trafod y datblygiad ar Faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Caiff yr ŵyl chwaraeon cenedlaethol newydd, Gemau Cymru, ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf. Mae wedi ei hysbrydoli gan Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd Llundain 2012.

Mae’r Eisteddfod yn  disgwyl y bydd dros 1,000 o bobl ifanc yn cystadlu mewn naw maes gwahanol gan gynnwys athletau, canŵio, gymnasteg, nofio a phêl-droed i ferched.

Bydd cystadlaethau yn digwydd trwy gydol yr ŵyl benwythnos o hyd mewn amrywiol leoliadau, gan gynnwys Stadiwm Chwaraeon Caerdydd, Pwll Rhyngwladol Caerdydd a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

Bydd Prifysgol Morgannwg, Pontypridd yn cael ei defnyddio fel pentref athletwyr am y penwythnos ac yn cynnig llety mewn awyrgylch diogel i bobl ifanc o bob cwr o Gymru.

“Y gobaith yw y bydd yr ŵyl yn rhoi sylfaen a phlatfform i bobl ifanc sydd eisiau mynd i fyd y campau. Naw camp sydd ar y funud, ond rydan ni’n gobeithio yn y dyfodol, yn dilyn llwyddiant y gemau, y bydd na fwy o weithgareddau,” meddai Gwennan Harries wrth Golwg360.

“Sai’n cofio sut i mi ddechrau ymddiddori mewn pêl droed ond roedd mam a dad yn dweud fy mod i wastad yn taflu a chicio pêl o gwmpas ac fe wnes i jest chwarae  gyda’r bechgyn yn yr iard yn yr ysgol gynradd a datblygu o fanno.

“Mae angen i blant a phobl ifanc cael y cyfle i drio pethe… y peth pwysicaf yw eu bod nhw’n joio.

“Mae’r diddordeb mewn pêl droed merched yn tyfu a thyfu. Dyna’r ail gamp fwyaf poblogaidd i ferched. Mae yna lawer iawn mwy o ferched yn chwarae nawr nac oedd ‘na bump i ddeg mlynedd yn ôl.”

Cymru ac Everton

“Mae’n anodd disgrifio sut deimlad yw rhoi’r crys coch ymlaen,” meddai wrth siarad am ei phrofiad yn chwarae dros Gymru.

“Ma’ fe’n brofiad anhygoel. Rhywbeth dw i’n falch iawn ac yn ffodus iawn o gael gwneud.  Pan chi’n gweithio’n galed yn ymarfer yn hwyr yn y nos – mae chwarae dros Gymru yn gwneud popeth yn werth chweil.

“Fi yw’r unig berson sy’n chwarae i Gymru ac Everton, a fi’n cael bach o ‘stic’ am hynny. Ni yw’r ail ore yn y gynghrair ar y funud tu ôl Arsenal felly mae’r safon yn uchel. Fi’n joio ‘na.”

Dywedodd mai ei nod ar hyn o bryd oedd cyrraedd 50 cap gyda Chymru, sef 10 yn fwy nag sydd ganddi nawr.

“Mae’r gemau Olympaidd yn dod lan so pwy a ŵyr gyda hwnna. Ond, y peth pwysicaf i mi yw cario ’mlaen chwarae a joio. Ond, gobeithio un diwrnod i gyrraedd cystadleuaeth fawr gyda Chymru. Dyna’r gobaith a’r nod,” meddai.