Lowri Morgan
Mae Lowri Morgan wedi ennill ras eithafol y 6633 Ultra yng nghanol y tywydd gaeafol ac amgylchiadau peryglus yr Arctig.
Hi yw’r chweched person yn y byd i gwblhau’r ras. Llwyddodd i gwblhau’r ras mewn 174 awr ag wyth munud, a threuliodd y tridiau olaf ar ei phen ei hun yn brwydro yn erbyn yr elfennau a’r amgylchiadau oer.
Wrth frwydro yn erbyn tymheredd oer a chreulon yr Arctig, roedd gofyn i’r cystadleuwyr gwthio’u cyrff i’r eithaf dros 350 o filltiroedd mewn wyth diwrnod.
Roedd dewis gan y cystadleuwyr i orffen ar ôl 120 milltir a dim ond Lowri Morgan lwyddodd i gwbwlhau’r 350 milltir.
Roedd yn rhaid byw yn gwbl hunangynhaliol a thynnu sled yn llawn offer a bwyd ar hyd y cwrs.
Gall gwylwyr ddilyn ei siwrnai, o’r paratoadau cynnar i holl uchafbwyntiau’r ras fuddugol, yn y gyfres bedair rhan Ras yn Erbyn Amser sy’n parhau bob nos Iau ar S4C.
‘Brwydr bersonol’
“Mae’r ras wedi bod yn frwydr bersonol iawn – yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol,” meddai Lowri Morgan.
“Ar ôl saith diwrnod o frwydro, rwy’n teimlo hapusrwydd a rhyddhad llwyr. Does dim owns o egni ar ôl yn y corff a’r meddwl.
“Dw i yn gallu deall erbyn hyn pam mai hon yw un o rasys anodda’r byd. Mae’r cerdded a rhedeg parhaus, y diffyg cwsg a’r unigrwydd i gyd yn chwarae triciau ar y meddwl!
“Does dim ots faint o ymarfer yr ydych chi’n ei wneud, does dim byd yn eich paratoi ar gyfer pa mor galed yw’r ras. Y ffordd wnes i ddygymod gyda’r amodau oedd cadw’r pen i lawr a chymryd un cam ar y tro.”
‘Diwedd pennod arall’
Er gwaethaf yr her enfawr, mae Lowri Morgan wedi dweud ei bod hi ychydig yn drist bod y cyfan wedi bod i ben.
Ond nid dyma’r tro cyntaf i Lowri Morgan ymgeisio sialens o’r fath. Mae hi bellach yn ddeunaw mis ers iddi redeg ras anodda’ ei bywyd hyd yn hyn – Marathon Jwngl yr Amazon.
Yn y ras honno, daeth yn drydydd ymhlith y merched ac yn y deg uchaf o bawb er gwaethaf y lleithder a’r tymheredd crasboeth.
“Mae hi’n ddiwedd ar bennod arall yn fy mywyd,” meddai. “Yn amlwg mae gwthio fy hun i’r eithaf yn y gwaed ac mae darganfod ffiniau, gweld y byd, gwneud ffrindiau newydd a chael sgiliau a phrofiadau newydd yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i fi mewn bywyd.
“Ar hyn o bryd, er fy mod wedi cael cynigion i ymuno â chriwiau ar anturiaethau anhygoel, rwy’ am fynd adref at fy ngŵr a’r teulu a mwynhau gallu ymlacio gyda nhw.”
Fel rhan o’i hymgyrch ei hun, mae Lowri wedi bod yn codi arian at elusen Shelter Cymru wrth redeg y ras. Gallwch ei noddi drwy ymweld â’r wefan.