Mae’r seiclwr o Gaerdydd, Luke Rowe wedi torri ei goes ar wyliau ceiliogod ei frawd.

Roedd e wedi bod yn rafftio dŵr gwyn pan dorrodd ei esgyrn crimog (tibia) a ffibiwla.

Mae e wedi cael llawdriniaeth ac wedi dychwelyd adref i Gaerdydd

Dywedodd ei fod e “wedi cael sioc” a bod ganddo fe “gyfnod hir” o’i flaen.

Mae ei frawd wedi dyweddïo â’r seiclwraig Dani King, oedd wedi ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Roedd Luke Rowe yn gapten ar Team Sky yn y Tour de France, ac roedd e’n allweddol ym muddugoliaeth Chris Froome.