Dyw Gareth Bale “ddim wedi trafod” ei ddyfodol gyda Real Madrid.
Dyma ddwed y Cymro ar ôl i’w dîm guro Man U yn y Super Cup yn Skopje neithiwr.
Roedd Casemiro wedi rhoi’r Sbaenwyr ar y blaen, ac fe ddyblon nhw eu mantais drwy Isco yn yr ail hanner cyn i Romelu Lukaku daro’n ôl yn hwyr yn y gêm.
Ond doedd hynny ddim yn ddigon i atal Real Madrid rhag ennill y tlws am yr ail dymor yn olynol.vFe fu cryn drafod ar ei ddyfodol, gydag adroddiadau’n awgrymu bod y Sbaenwyr yn barod i’w werthu.
Ond mae’r ffaith iddo gael ei ddewis gan ei reolwr Zinedine Zidane ar gyfer gêm fawr gynta’r tymor yn awgrymu bod lle iddo o hyd yn y tîm.
Roedd rheolwr Man U, Jose Mourinho wedi dweud y byddai’n barod i gystadlu am ei lofnod pe na bai e wedi chwarae neithiwr.
Perfformiad
Roedd Gareth Bale ar ei orau neithiwr, gan gwblhau’r bàs a arweiniodd at gôl gyntaf Real Madrid gan Isco. Roedd eisoes wedi taro’r trawst cyn hynny.
Yn ôl Gareth Bale, dyw e ddim yn gwrando ar adroddiadau’r wasg.
“Dw i ddim yn gwrando ar unrhyw beth, dw i ddim yn darllen unrhyw beth ond yn amlwg, dw i’n clywed pytiau [o drafodaethau].
“Dw i’n mwynhau fy mhêl-droed yma, dw i’n chwarae gymaint ag y galla i a dw i’n ennill tlysau, felly dyna’r cyfan dw i’n canolbwyntio arno.
“Dw i ddim wedi gael trafodaethau, dw i ond yn canolbwyntio ar fy mhêl-droed.
“Dw i’n ceisio gwella fy ffitrwydd gymaint ag y galla i ar ôl methu â chwarae’n gyson ers wyth neu naw mis.
“Mae’n wych cael ychwanegu at y casgliad o fedalau.”