Mae Geraint Thomas wedi dweud ei fod e “mewn sioc o hyd” ar ôl ei fuddugoliaeth “anhygoel” yng nghymal cyntaf ras feics y Tour de France ar strydoedd Dusseldorf yn yr Almaen.
Gorffennodd y Cymro’r ras yn erbyn y cloc dros bellter o 14km mewn 16 munud a phedair eiliad i sicrhau buddugoliaeth o bum eiliad dros Stefan Kung.
Gorffennodd ei gyd-aelod yn Team Sky, Chris Froome yn ddeuddegfed wrth iddo yntau fynd am drydedd buddugoliaeth o’r bron yn y ras gyfan.
‘Sioc’
Geraint Thomas yw’r Cymro cyntaf erioed i wisgo’r crys melyn – a dim ond yr wythfed cystadleuydd o wledydd Prydain. Mae e’n ymuno â rhai o fawrion y gamp, gan gynnwys Chris Boardman, David Millar, Bradley Wiggins a Mark Cavendish.
Dywedodd Geraint Thomas: “Do’n i ddim wir yn ei ddisgwyl e. Do’n i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.
“Mae ennill y cymal yn anhygoel ac mae’r crys melyn yn wych. Dw i’n dal mewn sioc, a bod yn onest.”
Dywedodd Chris Froome ei bod yn “wych” i’r tîm fod y Cymro wedi ennill y cymal.
Ychwanegodd Geraint Thomas fod ei fuddugoliaeth yn “gwneud yn iawn” am ei siom yn ras y Giro d’Italia, lle cafodd ei obeithion eu chwalu yn dilyn gwrthdrawiad.