Geraint Thomas (Llun: O wefan Sky)
Roedd y Cymro Geraint Thomas yn ôl ar ei feic prynhawn ma’ yng  nghymal deg o’r Giro d’ Italia o Foligno i Montefalco.

Mi orffennodd yn ail i’r gŵr o’r Iseldiroedd Tom Dumoulin – 49 eiliad oedd y bwlch, ond roedd ymdrech y Cymro yn gampus yn enwedig ar ôl y ddamwain ddydd Sul.

Roedd diwrnod o orffwys ddoe ac roedd hynny’n rhoi amser i’r Cymro wella o’r anafiadau a gafodd ddydd Sul  yng nghymal naw, lle orffennodd Thomas bum munud tu ôl i’r enillydd Nairo Quintana. Mi benderfynodd barhau yn y ras a  dechrau’r cymal ras yn erbyn y cloc.

Roedd  y beiciwr o’r Iseldiroedd, Wilco Kelderman, wedi taro beic modur plismon 14 cilomedr o ddiwedd y cymal ddydd Sul , a disgynnodd nifer o feicwyr, gan gynnwys Geraint Thomas a’r Prydeiniwr Adam Yates. Roedd y Cymro wedi datgymalu ei ysgwydd.

Roedd Thomas yn arwain ei dîm yn y Giro gyda gobeithion mawr am y ras tair wythnos. Roedd y Cymro Syr Dave Brailsford yn ddiplomyddol ar ôl y ddamwain ond yn sicr yn flin tu ôl i’r llenni.

“Hwb”

Roedd Thomas yn ail yn y ras cyn y ddamwain a dywedodd: “Dwi’n iawn, a does dim byd wedi’i dorri, rwyf wedi cael gwaeth anafiadau ac mi ddo’i drwyddi. Tydi o ddim yn sefyllfa ddelfrydol.

“Mae dal lot o rasio i’w neud, dibynnu os na’i geisio gwella fy safle’r holl ffordd i Milan neu dargedu ennill cymal neu ddau. Dwi’n meddwl mai ei chymryd hi o ddydd i ddydd fydd orau.”

Dywedodd Thomas ar ôl gorffen prynhawn ma: “Mae heddiw wedi rhoi hwb i fi a chodi fy hyder – dwi yn dal yn brifo, yn rhwystredig, yn enwedig oherwydd mai bai rhywun arall oedd y ddamwain, ond dyna fo mae o wedi digwydd.”

Mae Tom Dumoulin nawr yn gwisgo’r crys pinc y Maglia Rosa ac mae Thomas bellach yn safle 11, 5.33 munud tu ôl.

Mae cymal 11 fory (dydd Mercher) o Firenze (Ponte A Ema I Bagno di Romagna, 161 cilomedr)