Pum wiced i David Lloyd mewn gêm i'r batwyr (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Torrodd Morgannwg a Swydd Gaint bob record dan haul yn eu gêm 50 pelawd yng Nghwpan Royal London ar gae San Helen yn Abertawe.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn y pen draw, a hynny o 15 o rediadau wrth i’r ddau dîm sgorio cyfanswm o 697 o rediadau.

Ar ôl galw’n gywir a gwahodd Morgannwg i fatio, cafodd yr ymwelwyr ddechrau da wrth iddyn nhw gipio dwy wiced o fewn wyth pelawd, y capten Jacques Rudolph a’r agorwr arall David Lloyd yn rhoi daliadau i’r wicedwr Sam Billings, y naill oddi ar Matt Coles a’r llall oddi ar Ivan Thomas.

Ond Morgannwg gafodd y gorau o weddill y batiad, mewn gwirionedd wrth i Colin Ingram daro’i drydydd canred yn y gystadleuaeth wrth iddo fe sgorio 114 oddi ar 98 o belenni, gan gynnwys chwe phedwar ac wyth chwech.

Roedd ei bartneriaeth drydedd wiced yn werth 212 mewn 31.4 o belawdau, wrth i Will Bragg sgorio 94, ei gyfanswm gorau erioed mewn gêm Rhestr A, ac fe darodd e 11 pedwar ar hyd y ffordd.

Tua diwedd y batiad, penderfynodd Andrew Salter glatsio, ac fe lwyddodd e i daro dau bedwar a thri chwech ar ei ffordd i 29 wrth i Forgannwg sgorio 356-7 yn eu 50 pelawd, eu cyfanswm uchaf erioed ar gae San Helen, gan guro’r 344-5 sgorion nhw yn erbyn Swydd Lincoln yn Nhlws Natwest yn 1994.

Darren Stevens oedd y seren ymhlith batwyr Swydd Gaint, wrth iddo fe sgorio 147 oddi ar 67 o belenni, gan daro 14 chwech – y nifer fwyaf erioed yn erbyn Morgannwg mewn gêm undydd, gan dorri record flaenorol Ali Brown i Swydd Surrey (12 chwech a 30 pedwar). Sgoriodd e 10 pedwar yn y batiad hefyd.

Roedd partneriaeth Darren Stevens a Sam Billings yn werth 131, ac fe roddodd y bartneriaeth honno obaith i’r ymwelwyr o gyrraedd nod uchelgeisiol, oedd yn ormod yn y pen draw.

Daeth y wicedwr Chris Cooke yn gyfartal â record Morgannwg am y nifer fwyaf o ddaliadau (pump) i’r sir mewn gêm undydd – record sy’n cael ei rhannu gydag Eifion Jones ac Adrian Shaw.

Cafwyd cyfanswm o 35 ergyd am chwech – gan efelychu’r record sirol yn y gêm rhwng Swydd Nottingham a Swydd Northampton ar gae Trent Bridge fis Mehefin y llynedd.

David Lloyd wedi’i blesio

Dywedodd David Lloyd wrth golwg360 fod y canlyniad yn ei “blesio’n fawr”.

“Dywedodd Jacques [Rudolph, y capten] wrtha i am redeg i mewn mor galed â phosib a gweld beth fyddai’n digwydd.

“Roedd yr ymdrech i’w gweld yn glir ac mi dalodd ar ei chanfed. Ar ddiwrnodau eraill, mae’n bosib na fyddai wedi mynd o’n plaid ni, ond roedd wedi’n plesio ni’n fawr.

“Roedd y llain yn galed i’r bowlwyr, dw i’n meddwl. Roedd hyd y pelenni’n hanfodol – rhy llawn neu’n rhy fyr ac roedd hi’n hawdd i’r batwyr. Ond os oeddech chi’n ei bowlio hi yn y lle cywir, roedd rhywbeth ynddi i chi, felly ry’n ni’n blesd o fod wedi sicrhau’r fuddugoliaeth.”

‘Niwlog’

Wrth drafod ei fatiad o 147, dywedodd Darren Stevens fod y cyfan “braidd yn niwlog”.

“Mae gyda fi daith o chwech awr i feddwl am y peth! Byddwn i’n dweud mai dyna fy matiad gorau erioed, ond trueni na wnaethon ni ennill y gêm.

“Ro’n i’n eistedd yma, a dywedais i wrth Joe Denly, “Oedd e’n dda i’w wylio?”. “Oedd, uffar o fatiad,” meddai fe. Rhaid ei fod e’n arbennig i’w wylio. 35 chwech! Chwerthinllyd! Anhygoel!

“Roedd hi’n dipyn o lain, gyda rhywfaint o gyflymdra a’r bêl yn adlamu – fel pêl tenis, braidd! Ond roedd y llain yn dda.

“Ond wnaethon ni golli wiced ar ôl wiced. Mae’r holl fois tua gwaelod y rhestr yn gallu batio. Mae’n drueni.”