Ronnie O'Sullivan
Lai nag wythnos cyn dechrau Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru, mae Ronnie O’Sullivan wedi bygwth gwrthod gwneud cyfweliadau hir gyda’r cyfryngau yn dilyn ffrae fis diwetha’.
Yn ystod cystadleuaeth Meistri Prydain yn Preston fis diwethaf, cafodd y Sais lythyr gan gorff World Snooker yn ei rybuddio am ei sylwadau am safon y dyfarnu gan Terry Camilleri, ac am ei sylwadau am ffotograffydd oedd yn sefyll o’i flaen yn ystod gêm.
Fe wnaeth y sylwadau am y dyfarnwr yn ystod cyfweliad â Eurosport, ac fe regodd mewn cynhadledd i’r wasg am fod y ffotograffydd wedi amharu ar y gêm ac wedi ymddangos unwaith eto yn y gynhadledd i’r wasg yn fuan wedyn.
Mae Ronnie O’Sullivan wedi ymddiheuro am regi yn ystod y gynhadledd honno, gan egluro fod y BBC wedi golygu’r darn a gafodd ei ddarlledu.
Yr wythnos hon, fe ddychwelodd i Preston ar gyfer cystadleuaeth Grand Prix y Byd, ac fe gynigiodd atebion byr a robotaidd i gwestiynau Neal Foulds yn dilyn ei fuddugoliaeth yn erbyn Yan Bingtao ddydd Mawrth.
Fe eglurodd ei resymau mewn blog ar gyfer Eurosport.
“Fydda i ddim yn siarad am yn hir mewn cynadleddau i’r wasg nac mewn cyfweliadau mwyach oherwydd pan dw i’n rhannu fy meddyliau, dw i mewn perygl o gael dirwy.”
Ac fe ychwanegodd y byddai’n torri ei gytundeb â World Snooker pe bai e’n cael dirwy am fethu â chynnig atebion hir i gwestiynau.
Mae World Snooker wedi gwrthod gwneud sylw gan fod ymchwiliad ar y gweill.
Fe fydd Pencampwriaeth Agored Cymru’n dechrau ar Chwefror 13, ac fe fydd Ronnie O’Sullivan, enillydd y tlws y llynedd, yn herio Tom Ford yn y rownd gyntaf.