Owain Doull (llun: Wikipedia/Jeremy Jannick)
Mae’r seiclwr byd-enwog, Bradley Wiggins, wedi cymharu Owain Doull â Geraint Thomas gan ddweud fod “pethau mawr” o’i flaen.
Mae rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar S4C heno yn dilyn trywydd y seiclwr 23 oed o Gaerdydd wrth iddo ddod y Cymro Cymraeg cyntaf i ennill Medal Aur yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro, 2016.
Roedd yn rhan o dîm trywydd ar y cyd â Bradley Wiggins, Steven Burke ac Ed Clancy, ac wedi hynny fe gafodd ei benodi’n seiclwr proffesiynol gyda Thîm Sky.
Dywedodd Bradley Wiggins amdano, “mae’n fy atgoffa i o’r Geraint Thomas ifanc ac mae hynny’n dangos faint yw ei botensial e’.
“Mae Geraint bellach yn un o seiclwyr ffordd gorau’r byd. Fe all e’ gyflawni pethau mawr fel Geraint Thomas, ac mae amser o’i blaid,” meddai wedyn.
‘Uchelgais fy mywyd’
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys cyfweliadau â David Brailsford, Geraint Thomas a Scott Davies.
“Roedd ennill yr Aur yn brofiad anhygoel, yn uchelgais fy mywyd wedi’i gwireddu, a dyma ddwy flynedd fwyaf emosiynol fy mywyd hyd yma,” meddai Owain Doull.
“Roedd tîm y Gemau Olympaidd yn un arbennig a dyna pam y gwnaethon ni mor dda. Ac a bod yn hollol onest, doedd na’r un person yn y tîm doeddwn i ddim yn ei hoffi, ro’n i’n caru pawb,” ychwanegodd.
Mae’r rhaglen Medal Aur Owain Doull yn cael ei darlledu nos Fawrth, Chwefror 7, am 9.30yh.