Plac glas Griffith John
Bydd cysylltiadau consylaidd rhwng Cymru a China’n helpu i gadw’r cof am arwr tawel yn fyw…
Cafodd un o arwyr lleiaf enwog Abertawe a Chymru ei ddathlu’r wythnos diwethaf yn ystod ymweliad Nick Whittingham, Prif Gonswl Conswliaeth Prydain yn Wuhan yn China ag Abertawe.
Aeth y cenhadwr a’r pregethwr o Abertawe i Wuhan yn nhalaith Wubei yn 1855, gan ddod yn enwog am sefydlu ysbytai, ysgolion, colegau hyfforddi a Phrifysgol Wuhan, sy’n un o brifysgolion mwya’r byd erbyn hyn, ac yn parhau i ddwyn ei enw.
Mae’r cyswllt swyddogol rhwng Abertawe a Wuhan yn un cymharol newydd, ar ôl i gytundeb gael ei arwyddo haf diwethaf i hybu masnach rhwng y ddwy ddinas.
Dywedodd y Prif Gonswl Nick Whittingham wrth Golwg360: “Dw i’n credu bod Griffith John yn fwy enwog yn Wuhan nag yw e yn Abertawe!
“Dw i’n rhyfeddu o weld faint o bobol sydd wedi clywed am Griffith John a’r ddelwedd bositif wnaeth ei chreu ar gyfer y ddinas.
“Ro’n i’n siarad â theithiwr yn ddiweddar oedd yn sefyll ger cofeb Griffith John ac fe ddaeth rhywun o China atyn nhw a dweud, “Fe wnaeth e bethau gwych i’n dinas ni!” a cherdded i ffwrdd! Mae’n syfrdanol.”
Pwy oedd Griffith John?
Pregethwr o Abertawe oedd Griffith John.
Astudiodd yng Ngholeg Coffa Cynulleidfaol Aberhonddu ac yn Academi Bedford, cyn cael ei ordeinio yng Nghapel Ebenezer yn Abertawe yn 1855.
Roedd yn efengylwr gyda Chymdeithas Genhadol Llundain, ac fe gyfieithodd y Beibl i’r iaith Tsieineadd.
Fe oedd un o’r cenhadwyr cyntaf i fynd i China, ac ar ôl cyrraedd y wlad yn 1855, fe ymgartrefodd yn ninas Wuhan yn nhalaith Hubei.
Fe gyhoeddodd fersiwn o’r Testament Newydd yn yr iaith Wen-li, math o iaith lenyddol, yn 1885 cyn troi at yr iaith Fandarin bedair blynedd yn ddiweddarach ar gyfer ail fersiwn o’r Testament Newydd a rhannau o’r Hen Destament yn 1890.
Mae’r brifysgol yn Wuhan yn dwyn ei enw, ac mae’r ddinas yn cael ei hystyried bellach yn un brifddinas y prifysgolion, gyda mwy na 1.2 miliwn o fyfyrwyr yn astudio mewn 87 o brifysgolion.
Sefydlodd goleg ar gyfer pregethwyr o China yn 1889 ac yn y wlad honno y bu’n byw cyn dychwelyd i Lundain yn 1912, ychydig cyn ei farwolaeth.
Cafodd ei gladdu yng Nghapel Bethel yn Sgeti, Abertawe ar ôl gwasanaeth angladdol yng Nghapel Ebenezer.
Conswliaeth Prydain yn Wuhan
Mae gwaddol Griffith John i’w weld yn y gwaith sydd wedi cael ei wneud i sefydlu Conswliaeth Prydain yn Wuhan dros y ddwy flynedd diwethaf.
Dywedodd Nick Whittingham: “Mae’r swyddfa ar agor ac yn gweithredu’n llawn ar ein holl freuddwydion, yn enwedig ym myd masnach a buddsoddi rhwng y DU a China, gan helpu China i ddatblygu atebion carbon isel i rai o’u heriau, a hefyd wrth hybu mwy o gydweithio rhwng prifysgolion ac o ran diwylliant.
“Mae’r cyfan oll yn digwydd nawr ac ry’n ni eisoes wedi gweld nifer o ganlyniadau positif, er enghraifft cysylltiadau rhwng dinasoedd. Felly mae wedi bod yn gyfnod cyffrous ac ry’n ni’n disgwyl 2017 brysur iawn.”
Consyliaethau dinasoedd eraill yng ngwledydd Prydain
Er bod y cyswllt rhwng Wuhan ac Abertawe’n gymharol newydd, mae gan y ddinas yn China berthynas â Manceinion ers dros 30 o flynyddoedd, ac mae cysylltiadau hefyd rhwng China a gogledd Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Ychwanegodd Nick Whittingham: “Yn nhermau’r sector creadigol, mae’n sector masnachol sy’n tyfu yn ninas Wuhan. Maen nhw’n awyddus i gydweithio ymhellach â’r DU oherwydd bod y DU yn cael ei hystyried yn bwerdy creadigol yn y byd ac felly maen nhw’n gwerthfawrogi’r berthynas sydd gyda ni.”
Un o’r cwmnïau yn y sector creadigol sy’n debygol o elwa o’r bartneriaeth rhwng Wuhan ac Abertawe yw’r cwmni ffilm, Tanabi sydd wedi’i leoli yn ardal SA1 yn Abertawe ac sydd wedi ennill gwobr a chydnabyddiaeth gan Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Wuhan yn China ar gyfer y ffilm ‘By Any Name’ sy’n serennu Samira Mohamed Ali o Gastell-nedd.
Dywedodd Prif Weithredwr y cwmni, Euros Jones-Evans wrth Golwg360: “O ran buddsoddiadau ac arian yn dod i mewn, dan ni ddim fel gwlad yn edrych lot tu allan i Gymru.
“Mae’r ffilm yma’n un enghraifft, ond mae’n gyfle i ni adeiladu a gweld lle allwn ni baru efo cwmnïau neu fuddsoddwyr dramor.
“Roedd y gonswliaeth yma heddiw yn dangos be sydd yn bosibl. Mae’n rhoi opsiwn arall heblaw’r Undeb Ewropeaidd ar y funud.
“Dan ni ddim yn gwybod be fydd yn digwydd dros y flwyddyn neu ddwy nesa felly dan ni’n edrych ar opsiynau tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau hefyd, felly jyst gweld o ran y dyfodol be allwn ni wneud.”
‘Rhagor o waith dros y blynyddoedd nesaf’
Fis Medi diwethaf, fel rhan o Wythnos Cymru yn Wuhan, aeth 35 o bobol draw o Abertawe i China i fagu cysylltiadau ym meysydd busnes, addysg, gofal iechyd, gweithgynhyrchu, diwylliant, chwaraeon, bwyd a diod.
Fel rhan o’r ymweliad hwnnw, fe gafodd memorandwm ei lofnodi yn magu cysylltiadau ffurfiol rhwng y ddwy ddinas.
Dywedodd Chris Foxall, ymgynghorydd i Gyngor Dinas a Sir Abertawe, wrth Golwg360: “Mae wedi bod yn mynd yn ei flaen yn dda iawn. Dim ond haf diwethaf wnaethon ni lofnodi’r memorandwm.
“Sbardun y peth oedd y dathliad gawson ni ar gyfer y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd fis Chwefror y llynedd i godi arian ar gyfer arddangosfa Griffith John.
“Mae Wuhan yn ddinas anferth, dim byd o’i gymharu â’r hyn oedd hi pan oedd Griffith John yno, ond mae ei waddol yn dal yn amlwg heddiw gyda llawer o ysgolion, eglwysi ac ysbytai yno, yn sylfaen i systemau addysg ac iechyd China.
“Oherwydd yr effaith gafodd e a phoblogaeth China ar yr un pryd, mae e’n adnabyddus iawn i lawer iawn o bobol ac mae llawer o’r safleoedd sefydlodd e’n safleoedd treftadaeth erbyn hyn, sy’n cael eu gwarchod gan lywodraeth China.
“Ar ôl llofnodi’r memorandwm, mae gyda ni tua dwsin o gysylltiadau i’w datblygu gyda nifer o wahanol sectorau – o weithgynhyrchu ar y lefel uchaf i ddiwylliant, chwaraeon, bwyd a diod ac felly mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond fe fydd angen gwneud tipyn mwy o waith dros y blynyddoedd i ddod.”
Blwyddyn y Chwedlau
Rhan o’r gwaith hwnnw, meddai, fydd ceisio sicrhau bod plant yn Abertawe’n gwybod am Griffith John a’i ddylanwad ar China.
“Mae Amgueddfa Abertawe newydd lansio arddangosfa Griffith John unwaith eto fel bod ymwelwyr a phlant ysgol yn gallu mynd i mewn.
“Ond y ddelfryd yw ei gael e ar y cwricwlwm cenedlaethol. Roedd e’n berson sy’n gallu ysbrydoli ac fe gafodd e gryn effaith ar y byd. Pam na fyddech chi eisiau i blant ddysgu amdano fe?
“Mae e’n ffitio ‘Blwyddyn y Chwedlau’ hefyd gan ei fod e’n byw 150 o flynyddoedd yn ôl, ond mae’n dal i fod yn berthnasol heddiw.
“Mae e’n chwedlonol, ac mae ei chwedl yn dal yn fyw hyd heddiw ac mae ymdrechion yma yn Abertawe i gadw ei enw’n fyw oherwydd bod ei chwedl yn rhyfeddol, ac mae ei werthoedd yn dal yn bwysig ac yn berthnasol hyd heddiw.”
Stori: Alun Rhys Chivers