Mae’r bocsiwr Nathan Cleverly wedi dweud y byddai’n croesawu ail ornest is-drwm y byd yn erbyn yr Almaenwr Jürgen Braehmer.

Daeth yr ornest i ben neithiwr cyn dechrau’r seithfed rownd ar ôl i Braehmer ddioddef anaf i’w benelin.

Roedd disgwyl i’r ddau fynd ben-ben bum mlynedd yn ôl ac mae gan y ddau gymal yn eu cytundeb fod modd cynnal ail ornest.

Byddai’r ail ornest yn cael ei chynnal yng Nghymru, ac mae Cleverly wedi dweud ei fod yn disgwyl buddugoliaeth.

“Tynnodd Braehmer allan yn y seithfed [rownd] oherwydd y gwnes i ei dorri fe, anaf neu beidio. Mae’n ornest 12 rownd – ry’ch chi’n brwydro am yr holl ornest.

Roedd disgwyl y gallai Cleverly fod wedi ymddeol pe na bai e wedi ennill.

“Dw i mor ddiolchgar cael bod yn bencampwr byd unwaith eto. Fe wnes i weithio’n galed ar ôl colli fy ngwregys yn fy chweched gornest a nawr dw i’n bencampwr deublyg.”