Gemau Paralympaidd Rio
Ar drothwy’r Gemau Paralympaidd yn Rio, mae deiseb wedi cael ei sefydlu yn galw ar y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol (IPC) i gyflwyno rhagor o gampau i athletwyr ag anableddau dysgu.
Ar hyn o bryd, dim ond tair disgyblaeth – athletau, tenis bwrdd a nofio – sydd ar gael, a dim ond saith athletwr ag anabledd dysgu – pob un yn nofiwr – sydd yn nhîm Prydain, sy’n cynnwys 264 o athletwyr.
Mae’r ddeiseb wedi’i sefydlu gan Stephanie Moore, athletwraig 100 metr a 200 metr sydd ag anabledd dysgu.
Cafodd athletwyr ag anableddau dysgu eu gwahardd o’r Gemau ar ôl i dîm pêl-fasged Sbaen gael eu canfod yn euog o dwyllo yn y Gemau Paralympaidd yn Sydney yn 2000.
Ond fe ddychwelodd rhai campau ar gyfer Gemau Paralympaidd 2012 yn Llundain yn dilyn penderfyniad gan yr IPC ym mis Tachwedd 2009.
Mae’r holl bara-athletwyr yn gorfod cael profion cyn cystadlu er mwyn eu dosbarthu i amryw gategorïau, ond mae’r profion ar gyfer athletwyr ag anableddau dysgu’n fwy llym erbyn hyn.
Mae Mencap yn galw am roi rhagor o gyfleoedd i athletwyr ag anableddau dysgu.
Bydd y Gemau Paralympaidd yn cael eu cynnal rhwng Medi 7-18.