Mae dau o chwarae Abertawe wedi gadael y clwb ar fenthyg ar y noson y mae’r ffenest drosglwyddo wedi cau.
Mae’r ymosodwr Marvin Emnes wedi mynd i Blackburn tan fis Ionawr, tra bod yr amddiffynnwr Franck Tabanou ar ei ffordd i Granada yn Sbaen tan ddiwedd y tymor.
Dydy Emnes ddim wedi chwarae i’r Elyrch ers mis Mawrth.
Ymunodd Emnes ag Abertawe o Middlesbrough yn 2014 yn dilyn dau gyfnod llwyddiannus ar fenthyg yn ne Cymru.
Franck Tabanou
Mae’r amddiffynnwr Franck Tabanou, yn y cyfamser, wedi symud i Granada yn La Liga yn Sbaen.
Bydd yn treulio gweddill y tymor yno.
Symudodd yr amddiffynnwr chwith o St Etienne y tymor diwethaf, cyn dychwelyd yno ar fenthyg ym mis Ionawr.