Fe wnaeth Laura Trott a Jason Kenny arwain y blaen yn y felodrôm yn Rio ddoe gan ennill dwy fedal aur arall i dim Prydain.
Mae’r cwpwl, sydd wedi dyweddïo, nawr gyda 10 o fedalau rhyngddyn nhw.
Laura Trott, sydd ond yn 24, yw’r ferch gyntaf o dim Prydain i ennill pedair medal aur yn y gemau Olympaidd tra bod Jason Kenny wedi ennill ei chweched medal aur Olympaidd, yr un faint a Chris Hoy.
Mae tîm Prydain erbyn hyn wedi ennill 19 o fedalau aur yn y gemau yn Rio ac roedd rhagor o lwyddiant yn y felodrôm i’r Gymraes Becky James wrth iddi ennill arian tra enillodd Katy Marchant y fedal efydd yn yr un digwyddiad.
Hwyl ar yr hwylio
Enillodd Giles Scott fedal aur yn yr hwylio i dim Prydain ac enillodd Annalise Murphy o Iwerddon y fedal hwylio cyntaf i’r wlad ers 36 o flynyddoedd wrth iddi gipio’r fedal arian.
Enillodd y deifiwr Jack Laugher, 21, y fedal arian ar ôl cystadleuaeth galed i’w ychwanegu at yr aur enillodd yn y deifio cydamseru gyda’i bartner Chris Mears.
Enillodd y gymnastwr ac athletwr ieuengaf tîm Prydain, Amy Tinkler, 16, efydd yn rownd derfynol yr ymarfer llawr i merched. Llai nag awr yn ddiweddarach, enillodd Nile Wilson y fedal efydd yn y bar uchel.
Cafodd y bocsiwr Joshua Buatsi hefyd fedal efydd ar ôl trechu Adilbek Niyazymbetov o Kazakhstan yn y rownd gyn derfynol.
Gobaith am fwy…
Mae gobeithion am rhagor o fedalau heddiw ar y dŵr, yn y cylch bocsio ac ar y trac.
Mae’r parau Luke Patience a Chris Grube, a Hannah Mills a Saskia Clark yn gobeithio cipio medalau yn yr hwylio tra bod Savannah Marshall, sy’n gyn bencampwr y byd, yn paffio yn erbyn Nouchka Fontijn o’r Iseldiroedd yn y bocsio merched.
Bydd Dina Aser-Smith, gwibiwr benywaidd gorau Prydain, yn llygadu medal yn y 200 metr i ferched ac mae Jazmin Sawyers hefyd yn cystadlu yn rownd derfynol y naid hir.