Mae Owen Morgan wedi dweud bod “angen tipyn o amynedd” wrth iddo daro 103 heb fod allan – ei ganred cyntaf erioed mewn gêm dosbarth cyntaf i Forgannwg, wrth i’r Cymry guro Swydd Gaerwrangon o bum wiced yn New Road yng Nghaerwrangon.

Hon oedd ail fuddugoliaeth y Cymry yn y gêm pedwar diwrnod eleni.

Roedd angen 277 o rediadau ar Forgannwg i sicrhau’r fuddugoliaeth, ac fe ddaeth Morgan, y chwaraewr 22 oed o Bontarddulais, i’r llain gyda naw pelawd yn weddill o’r trydydd diwrnod.

Roedd Morgan wrth y llain am fwy na phump awr a hanner gan daro 13 pedwar oddi ar 242 o belenni yn ei bedwaredd gêm pedwar diwrnod yn unig i Forgannwg.

Morgan yw’r noswyliwr cyntaf erioed i daro canred i Forgannwg ac i daro’r rhediadau buddugol.

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Morgan wrth y wasg: “Fyddwn i byth wedi dychmygu y byddwn i yno ar y diwedd.

“Fy mhrif nod oedd aros am yr awr gyntaf ond o fynna, diolch byth, fe lwyddais i i batio am y diwrnod cyfan a chael y tîm dros y llinell.”

Tarodd Aneurin Donald 57 mewn partneriaeth o 99 gyda Morgan a ddaeth i ben ychydig cyn diwedd y gêm.

“Nid tan i Aneurin [Donald] ddod i mewn ar y diwedd ro’n i’n credu y byddwn i’n gweld y peth i’r diwedd.

“Wnaeth e ddechrau clatsio cwpwl a chael y cyfanswm [angenrheidiol] i lawr.  Daeth y llinell derfyn i’r golwg yn eitha cyflym.”

Cyrhaeddodd Morgan ei ganred gyda phedwar i’r ffin, a honno oedd ergyd ola’r gêm wrth i Forgannwg gyrraedd eu nod gyda phum wiced yn weddill.

Ychwanegodd Morgan: “Diolch byth ’mod i wedi llwyddo i gael y pedwar a’r canred a’r fuddugoliaeth ar yr un pryd.

“Roedd angen tipyn o amynedd ar y llain honno. Roedd hi fel brwydr atrisiwn yn sicr.

“Roedd bowlio’n syth yn gwneud sgorio’n anodd iawn ac roedd angen manteisio ar y belen wael pan ddaeth hi.”