Mae cyfanswm medalau aur Tîm Prydain wedi codi i 16 ar ôl i Charlotte Dujardin ddod i’r brig yn y dressage gyda’i cheffyl Valegro.

Llwyddodd Charlotte Dujardin, 31, i amddiffyn ei theitl gyda sgôr arbennig o 93.857%. Mae hi rŵan wedi ennill tair medal aur i gyd, cymaint â’r beiciwr Laura Trott.

Yn y cyfamser, enillodd Mark Cavendish ei fedal Olympaidd gyntaf drwy gipio’r arian yhn y felodrôm yn Rio.

Ond mae posib y bydd y Manaw-wr 31 mlwydd oed yn cael ei gosbi eto petai ei gystadleuwyr yr yn cwyno neu’r awdurdodau yn penderfynu gweithredu oherwydd damwain ddigwyddodd ganol ras a oedd yn ymddangos i fod yn fai ar Mark Cavendish.

O falê i daflu morthwyl

Yn gynharach ddydd Llun, torrodd y taflwr morthwyl Prydeinig Sophie Hitchon ei record cenedlaethol ei hun i ennill efydd gyda thafliad olaf y gystadleuaeth.

Y cyn ddawnsiwraig balê 25 oed o Burnley yw’r ferch gyntaf o Brydain i ennill medal Olympaidd yn y ddisgyblaeth.

Yn y felodrôm heddiw mae Laura Trott, 24, yn gobeithio dod y ddynes gyntaf o Brydain i ennill pedair medal aur yn y Gemau Olympaidd.

Hefyd yn y felodrôm, mae’r Gymraes Becky James yn herio Tianshi Zhong o Tsieina yn chwarteri sbrint y merched.

Bydd Annalise Murphy yn ceisio ennill medal hwylio cyntaf Iwerddon mewn 36 mlynedd ac mae Nicola Adams yn parhau ei hymgais i fod y bocsiwr cyntaf o Brydain i amddiffyn teitl Olympaidd ers 92 mlynedd.